Mae Mali Hâf yn un arall o’r artistiaid Cymraeg cyfoes sy’n rhyddhau sengl Nadolig eleni.
‘Celyn’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd ar gael i’w chwarae ar y radio yn unig.
Mae’r artist bop yn croesawu’r Nadolig gyda’i sengl newydd sbon sy’n drac llawn cynhesrwydd a chariad.
Cafodd y gân ei hysgrifennu’n wreiddiol ychydig flynyddoedd yn ôl ar biano ei nain yn ystod ei Nadolig cyntaf hebddi.
Mae ‘Celyn’ yn cyrraedd wythnos union ar ôl sengl ddiweddaraf Mali Hâf, ‘Dai Llosg’, ac yn dilyn hefyd y cyhoeddiad arbennig ei bod hi ymhlith yr artistiaid a fydd yn perfformio yng ngŵyl South by Southwest (SXSW) blwyddyn nesaf.