Datgelu rhestrau byr ‘Artist Unigol’ a ‘Chân Orau’ Gwobrau’r Selar 

Mae’r rhestrau byr ar gyfer dau o gategorïau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ers nos Fercher 5 Chwefror.

Cyhoeddwyd y rhestrau byr ar gyfer y gwobrau ‘Artist Unigol’ a ‘Chân Orau’ 2024 yn ecsgliwsif ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd.

Daw’r ddwy restr fer ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddi’r rhestrau ar gyfer categorïau ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ ar yr un rhaglen wythnos diwethaf, ynghyd â lein-yp noson Gwobrau’r Selar sy’n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2020. 

Y dair cân sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus eleni ydy ‘Pan Ddaw’r Nos’ gan y band ifanc o Gaerdydd, Taran; ‘Unfan’ gan y artist addawol o Frynfefail, Buddug; a ‘Rhedeg Fyny’r Mynydd’ gan y band arall ifanc o Lansannan, TewTewTennau.

Y tri artist unigol mwyaf poblogaidd ymysg darllenwyr Y Selar oedd Mared, Georgia Ruth a Buddug. 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau’r Selar fydd yn digwydd yn Arad Goch, Aberystwyth ar 1 Mawrth. Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gig hwnnw, fydd yn cynnwys perfformiadau gan Buddug, Dadleoli, Taran a TewTewTennau ar wefan Y Selar nawr. 

Bydd rhestrau byr dau gategori arall yn cael eu datgelu ar raglen Mirain Iwerydd wythnos nesaf, ar nos Fercher 12 Chwefror. 

 Cân Orau

‘Pan Ddaw’r Nos’ – Taran

‘Unfan’ – Buddug

‘Rhedeg Fyny’r Mynydd’ – TewTewTennau

 

Artist Unigol Gorau

Mared

Georgia Ruth

Buddug

 

Archebwch docynnau Gwobrau’r Selar.