Mae gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru, sef Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi cyhoeddi manylion y don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yn y digwyddiad eleni.
Cynhelir Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng nghalon y Bannau Brycheiniog rhwng 14 a 17 Awst eleni.
Y prif enwau fydd yn perfformio y tro hwn ydy’r ddeuawd electronig a ffurfiodd yng Nghaerdydd, Underworld; y triawd rap o Belfast, Kneecap; y band rock amgen o Brooklyn, TV On The Radio; a Beth Gibbons sy’n adnabyddus fel prif ganwr y band Portishead.
Daw’r newyddion ar ôl i holl docynnau’r ŵyl werthu yn yr amser byrra’ erioed, sef cwta 60 munud. Roedd hynny 11 mis cyn y digwyddiad, cyn cyhoeddi’r arlwy o gwbl, gan olygu mai Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd yr ŵyl gyntaf yn y DU i werthu allan ar gyfer 2025.
Mae’r ŵyl hefyd yn parhau i gynnig llwyfan i nifer o’r bandiau Cymreig gorau ac mae’r lein-yp eleni’n cynnwys Los Campesinos!, Gwenno, Adwaith, Tristwch Y Fenywod, Pys Melyn a Georgia Ruth Williams.
Bydd yr arlwy hefyd yn cynnwys enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2021, Kelly Lee Owens, y cynhyrchydd o Gaerdydd, High Contrast, a’r ffefrynnau i’r ŵyl, Melin Melyn.
Ffurfiodd y grŵp electronig enwog Underworld yng Nghaerdydd ym 1987. A’u gyrfa wedi ymestyn dros sawl degawd bellach, mae’r Cymro Rick Smith a’i bartner cerddorol Karl Hyde, yn siŵr o blesio gyda chlasurol fel ‘Born Slippy (Nuxx)’ yn ogystal â thraciau newydd o’u halbwm a ryddhawyd yn 2024.
Band arall sy’n siŵr o blesio yn eu hymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl ydy Kneecap, sydd wedi cael llwyth o sylw’n ddiweddar diolch i’w ffilm a enillodd wobr BAFTA. Dyma fydd eu sioe fwyaf yn y DU hyd yma.
Lein-yp Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025
Iau 14 Awst
Kneecap, Adwaith, W.H. Lung, Tristwch Y Fenywod, Georgia Ruth, Midding, Nancy Williams, Peiriant, The Social
Gwener 15 Awst
Wet Leg, Wunderhorse , Greentea Peng, John Grant, Los Campesinos!, Panda Bear, Alan Sparhawk, MIKE, DITZ, Annie & The Caldwells, DOVE, IceMorph
Nadia Reid, Pictish Trail, Ishmael Ensemble, The Joy, Jacob Alon, HiTech, @, Greg Mendez
Horse Jumper Of Love, Delivery, Robin Kester, Pys Melyn, Adult DVD, alphabet, Silver Gore, oreglo, Yuuf, PRAH – Hiro Ama, TaliaBle
Sadwrn 16 Awst
Underworld, CMAT, Perfume Genius, MJ Lenderman & The Wind, English Teacher, Fat Dog, Gwenno, Rich(ard) Dawson, Just Mustard, John Glacier, caroline, Broadside Hacks presents a tribute to Bob Dylan, Derya Yıldırım & Grup Şimşek, Melin Melyn, Daisy Rickman, mark william lewis, DJ Paulette, jasmine.4.t, Chalk, YHWH Nailgun, Friko, Allegra Krieger, Boss Morris, BLACK FONDU, HONESTY, Pem, Truthpaste, Westside Cowboy, Don Leisure, Dutty Disco
Sul 17 Awst
TV On The Radio, Beth Gibbons, Yard Act, Nilüfer Yanya, Warmduscher, Cassandra Jenkins, Big Special, Good Sad Happy Bad, Being Dead, Upchuck, Naima Bock, Hannah Cohen, Faux Real, Joshua Idehen, Oisin Leech, Cloth, Rocket, Folk Bitch Trio, Bridget Hayden and the Apparitions, Aga Ujma, Astles, Cruel Sister, Muriel, RIP Magic, Deptford Northern Soul Club, Popperz