Cyhoeddi manylion llwyfan Hwyrnos @ Maes B

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion llwyfan ‘Hwyrnos’, sef y maes gwersylla 21+ newydd fydd yn ran o arlwy Maes B yn yr Eisteddfod eleni. 

Cyhoeddwyd manylion y maes gwersylla newydd beth amser nôl a bellach mae’r trefnwyr wedi datgelu y bydd llwyfan perfformio i gyd-fynd â’r ardal newydd. 

Yn ôl yr Eisteddfod bydd Llwyfan Hwyrnos yn cynnig cyfle i brofi’r gorau o gerddoriaeth newydd Cymru tan oriau mân y bore.

Yn agor arlwy’r llwyfan newydd bydd Mared a’i llais trydanol ar y Nos Fercher.

Bydd Pys Melyn a’u roc melys yn siŵr o hudo’r dorf fel prif artist ar y Nos Iau. 

Yn cloi’r Nos Wener bydd y pedwarawd indi poblogaidd Mellt yn dilyn eu taith gyffrous i ŵyl SXSW yn Texas, cyn i Morgan Elwy ac Aleighcia Scott ddod at ei gilydd i berfformio set arbennig ar y Nos Sadwrn.

Leinyp llawn Llwyfan Hwyrnos:

Nos Fercher 6 Awst – Mared, Wrkhouse, Lleucu Non

Nos Iau 7 Awst –  Pys Melyn, Cyn Cwsg, Tai Haf Heb Driogolyn

Nos Wener 8 Awst – Mellt, Sywel Nyw, Emyr Sion

Nos Sadwrn 9 Awst – Morgan Elwy ac Aleighcia Scott, Griff Lynch, Enillydd Brwydr y Bandiau