EP newydd Hel Clecs

Mae’r prosiect hip-hop sy’n cyfuno doniau’r bîbocsiwr o Fôn Mr Phormula, a’r chwedlonol Lodr Willin o Rhode Island, wedi rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf.

Hel Clecs ydy enw’r prosiect, ac mae’r EP newydd allan dan yr enw ‘C.O.P.A’ (Creating Original Prolific Art). 

Dyma’r deunydd diweddaraf y ddeuawd deinamig Hel Clecs ac mae’n parhau i wthio ffiniau a herio’r hen arferion. 

Mae’r EP yn amlygu creadigrwydd y prosiect – gyda’r cynhyrchiad tynn, y geiriau gonest a’r sain graenus i gyd wedi’i harwain dan ofal Mr Phormula. 

Mae’r casgliad byr diweddaraf yn ddilyniant i’r EP ‘S.A.I.N. (Sound Acquired in Nature)’ a ryddhawyd gan Hel Clecs yn 2022.