Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau eu halbwm newydd, Y Dwylo Uwchben, ar label Halen Records.
Dyma ail albwm y band roc o Gaerdydd ac mae’n ddilyniant i’r record hir gyntaf, ‘Hir Oes i’r Cof’ a ryddhawyd yn 2021.
Daw’r albwm llawn yn dilyn cyfres o senglau fel tameidiau i aros pryd dros fisoedd cyntaf y flwyddyn gan ddechrau gyda ‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’ ym mis Ionawr, ynghyd â fideo swyddogol i’r trac gan Michael McCann.
Dilynwyd hynny gan y senglau ‘Paid Trio’ ym mis Mawrth ac yna ‘Yn Tynnu Fi Fel Cortyn’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Ebrill.
Mae’r band wedi cyhoeddi y bydd sioe arbennig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd i lansio’r albwm ar os Iau 17 Ebrill – lleoliad sydd yn agos iawn at galon y band.
Bydd y band hefyd yn cefnogi Goldie Lookin Chain ar daith Brydeinig yn yr hydref.
Drwy fregusrwydd perfeddol, mae Breichiau Hir wedi gwahaniaethu eu hunain o fewn sîn gerddoriaeth fywiog Caerdydd gyda’u hagwedd unigryw tuag at gerddoriaeth roc Gymraeg. Mae eu sioeau byw yn ddwys ac yn annog pobl i ymgolli mewn sŵn ac egni pur.
Drwy ystyried pwrpas a gweithred unigolyn, a’r frwydr rhwng yr hyn sydd i ddod, a’r hyn y gall person ei newid, mae ail albwm y band yn addo adeiladu ar enw da’r band am gyfansoddi caneuon bachog â seinwedd eang, sy’n parhau i fod yn bersonol a’n authentic.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Yn Tynnu Fi Fel Cortyn’: