Cyhoeddi manylion pellach am Ŵyl Tawe

Mae manylion pellach ynglŷn â Gŵyl Tawe eleni wedi’u datgelu. 

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ddydd Sadwrn 7 Mehefin.

Datgelwyd eisoes gan y trefnwyr mai Gruff Rhys fydd prif atyniad yr ŵyl, a bellach maent wedi cyhoeddi y bydd Adwaith yn ymuno â’r arlwy ac yn perfformio cyn Gruff ar lwyfan Gardd yr Amgueddfa. 

Hefyd yn ymuno â’r rhaglen gerddorol ar draws ddau brif lwyfan yr ŵyl mae EADYTH, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Pys Melyn. Mae yna fwy o gerddoriaeth dal i’w gyhoeddi, gan gynnwys parti cloi arbennig yn lleoliad y Bunkhouse ar nos Sul 8 Mehefin.

Fel rhan o brosiect newydd eleni, bydd y cerddor ifanc, cyffrous o Abertawe – Manon – yn agor llwyfan Gardd yr Amgueddfa. Yn aelod o’r prosiect datblygu cerddorol ar gyfer pobl ifanc 15 i 21, Future Blood, mae Manon hefyd yn aelod rheolaidd o glwb cerddoriaeth Tŷ Tawe.

Er bod hi ddim ond wedi dechrau ysgrifennu caneuon ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf, mae eisoes wedi adeiladu dilyniant sylweddol gyda pherfformiadau cyson mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Abertawe. Yn arwain at yr ŵyl eleni, bydd Manon yn rhyddhau ei sengl gyntaf – ‘Amrywliw’ – yn ogystal â fideo wedi ei recordio trwy Gronfa Fideos Cerddorol Lŵp x PYST.

Mae prosiect newydd arall ar gyfer yr ŵyl eleni wedi gweld galwad agored ar gyfer cyfarwyddwyr newydd i recordio cyfres o sesiynau byw mewn lleoliadau gwahanol ar draws Abertawe. Bydd y sesiynau yma’n cael eu rhyddhau drwy sianel AM Cymru Menter Iaith Abertawe wrth arwain at yr ŵyl, yn ogystal â chael eu harddangos ar y sgrin fawr ar y diwrnod.

Hefyd yn cael ei arddangos bydd perfformiad arbennig gan grŵp o bobl ifanc wedi ei ddatblygu gan aelodau clwb clocsio wythnos a sesiwn werin misol Menter Iaith Abertawe, wedi ei arwain gan y cerddorion Angharad Jenkins a Rhodri Davies.

Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim ar system gyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa yn agor am 10:00 a’r adloniant yn rhedeg hyd at 21:00.