Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Georgia Ruth ydy enillydd gwobr gyntaf Gwobrau’r Selar eleni, sef Gwobr 2024.
Datgelwyd y newyddion yn uniongyrchol i Georgia gan Mirain Iwerydd ar ei rhaglen BBC Radio Cymru heno ac roedd yr artist amryddawn o Aberystwyth yn amlwg wrth ei bodd.
Mae’r wobr yma’n un sy’n amrywio rhywfaint o flwyddyn i flwyddyn, ond y nod ydy talu teyrnged i gerddor sydd wedi dangos agwedd bositif dros y flwyddyn a fu, gan ysbrydoli eraill wrth wneud hynny.
Does dim amheuaeth fod Georgia Ruth wedi gwneud hynny, ac roedd 2024 yn flwyddyn fythgofiadwy iddi’n gerddorol, ond hefyd yn un heriol iawn mewn sawl ffordd hefyd.
Ers blynyddoedd bellach mae wedi ysbrydoli fel merch yn y diwydiant cerddorol, ac yn fwy diweddar fel mam.
Mae’n artist sy’n dangos esiampl o’r modd y gellir cyfuno bywyd teulu a’i holl gymhlethdodau, gyda bod yn gerddor o’r radd flaenaf a phlethu’r ddau beth yn esmwyth.
Gwelwyd Georgia’n rhyddhau ei halbwm diweddaraf, Cool Head, yn ystod 2024 ac mae hwn yn gampwaith arall ganddi.
Mae bellach yn awdur hefyd gyda’r gyfrol i gyd-fynd â’r albwm, ‘Tell Me Who I Am’, yn cael ei gyhoeddi’n annibynnol ym mis Mehefin.
Enillydd amlwg
Cyflwynwyd y wobr arbennig yma am y tro cyntaf fel ‘Gwobr 2020’ gan adlewyrchu ar flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae’n wobr sy’n dathlu amrywiaeth a chynrychiolaeth, ond hefyd yn nodi cyfraniad positif gan bobl o fewn y diwydiant yn wyneb heriau.
“Ar un llaw mae’r wobr yma’n un sy’n anodd ei diffinio, ond wedyn dwi’n credu bod pobl jyst yn ei ‘deall hi’ heb orfod egluro gormod” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Tîm golygyddol Y Selar sy’n dewis yr enillydd, a fel arfer mae’r enw amlwg yn jyst dod i ni heb orfod meddwl gormod am y peth.
“A hithau wedi cyflawni gymaint yn ystod 2024 gan ryddhau albwm newydd gwych a sefydlu ei hun fel awdur, roedd Georgia’n enillydd amlwg a theilwng iawn. Rydan ni’n ymwybodol na fu’n gyfnod hawdd iddi a’i theulu, ond eto mae bob amser mor bositif ac yn berson ysbrydoledig iawn. Parch mawr.”
Dal yma
Roedd Georgia’n amlwg wedi cael syndod wrth i Mirain dorri’n newyddion iddi.
“Mae hwnna mor lyfi, o’n i ddim yn disgwyl ’na actually” meddai Georgia.
“Mae nhw’n gweud weithie bod ti’n cael blwyddyn a bod ti’n cofio’r flwyddyn ’na am byth. A 2024, y gore a’r gwaetha, jyst i gyd wedi tymblo mewn i un flwyddyn.
“O’n i ddim yn siŵr os fydden i’n dal i wneud miwsic ar y pwynt yma…ma fe’n gyfnod rili anodd i fod yn greadigol, ac achos hyna ma fe’n teimlo’n fraint bod fi dal yma’n gwneud e, a dal ishie gwneud e.”
Mae Georgia’n dilyn ôl traed enillwyr ysbrydoledig eraill sydd wedi derbyn y wobr yma. Eädyth oedd enillydd y wobr gyntaf, Gwobr 2020, ac ers hynny mae wedi’i chyflwyno i griw Merched yn Gwneud Miwsig yn 2021 ac yn Izzy Rabey yn 2022. Tara Bandito oedd enillydd y wobr llynedd.
Dyma’r ymateb ganddi a gallwch wrando nôl ar raglen Mirain ar BBC sounds i glywed y sgwrs lawn:
View this post on Instagram