Sengl gyntaf Coron Moron

Mae’r label newydd gweithgar, UNTRO, ar fin rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n drac cyntaf an y band ifanc Coron Moron. 

Band o saith disgybl ysgol gynradd ydy Coron Moron, a bydd eu sengl gyntaf, ‘Cawl’, allan ddydd Gwener 28 Chwefror gyda fideo arbennig i gyd-fynd â’r trac.

Wedi ffurfio er mwyn gallu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, mae Coron Moron wedi bod yn brysur ysgrifennu, a pherfformio, ers bron i flwyddyn bellach gan chwarae yng Ngŵyl Canol Dre, Gŵyl Cynefin, y Cwtsh a hefyd yn y lleoliad eiconig, Cwrw yng Nghaerfyrddin. 

Dyma’r cynnyrch diweddaraf i lanio ar label UNTRO gan ddilyn pedair sengl gyntaf gan bedwar artist newydd o Gymru y llynedd.  

Mae’r sengl yn ganlyniad o gydweithrediad gyda Cegin y Bobl, elusen a arweinir gan Simon Wright, sy’n annog plant i fwyta’n iach ac i fod yn amgylcheddol ymwybodol. 

Cafodd y trac ei recordio gan y band o Lanelli, The Hepburns, gyda James Owen o Stori Cymru yn saethu’r fideo sy’n cyd-fynd. 

Yn dathlu byw yn iach, cyfeillgarwch a chymuned, mae ‘Cawl’ yn  cael ei ryddhau am 12:30yp  ar ddydd Gwener 28 Chwefror i gynrychioli amse