A hwythau wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Y Fodrwy, fis Mai, mae’r triawd o Sir Benfro, Lafant, yn ôl gyda sengl ddwbl newydd sbon.
‘Eira Gwyn’ a ‘Borthroc’ ydy enw’r ddau drac diweddaraf ganddynt sydd allan ar label Fflach Cymunedol.
Lafant ydy Mefin Hughes, Meiddyn Ladd a Sam Howell.
Mae ‘Eira Gwyn’ yn stori hiraethus am antics hwyr y nos, wedi’i chyflwyno gan lais eironig, nodweddiadol Mefin Hughes.
Mae’r gytgan gofiadwy a’r sain gitâr ddirgrynol yn dwyn i gof symlrwydd pop gitâr y 90au, tra hefyd yn cyfeirio at alawon rhamantus un o selogion Fflach, Richard Jones, o Ail Symudiad.
Mae’r B-side, ‘Borthroc’ – a enwyd ar ôl y dref glan môr lle recordiwyd y gân – yn rhoi cipolwg ar brif ddylanwad seinyddol Lafant, sef roc syrffio’r 60au.
Wedi’i hadeiladu o amgylch riff ailadroddus ac yn cynnwys sgyrsiau tawel a ddaliwyd yn y stiwdio, mae’r gân yn rhoi syniad o drywydd posibl Lafant yn y dyfodol.
Wedi’u cynhyrchu unwaith eto gan yr Americanwr, Mike West, yn ei gapel wedi’i drawsnewid ar arfordir canolbarth Cymru, mae ‘Eira Gwyn’ a ‘Borthroc’ yn ddwy gân arall i’w hychwanegu at repertoire cynyddol y band o ganeuon i’w canu gyda chalon, wedi’u crefftio’n ofalus, ond wedi’u cyflwyno gyda brys.