Mae gŵr ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg wedi dechrau podlediad newydd am gerddoriaeth Gymraeg.
Joseph Morgan sy’n gyfrifol am bodlediad ‘Swntrack’ a dywed ei fod am geisio gwneud y rhaglenni’n agored ac yn hwyl i bawb boed chi’n rhugl yn y Gymraeg, yn dysgu’r iaith neu ddim ond yn chwilfrydig.
Mae’r bennod gyntaf ar gael i’w chlywed nawr ar Spotify.