Cymdeithas yr Iaith yn datgelu manylion gigs Steddfod

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio yn eu gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.

Bydd y gigs yn cael eu cynnal mewn dau leoliad sef Neuadd Wiliam Aston, sydd o dan reolaeth Theatr Clwyd, a lleoliad amlwg Saith Seren yn Wrecsam. 

Bydd cerddoriaeth fyw gan Pedair, Gwibdaith Heb Frân, Plu, Geraint Lovgreen, Gai Toms, Ani Glass ac eraill bob nos rhwng 2 a 9 Awst yn Saith Seren, sef y ganolfan Gymraeg a sefydlwyd yn y dref fel gwaddol i lwyddiant ymweliad diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam yn 2011.

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Theatr Clwyd i gyflwyno tair noson Gymraeg fawr yn Neuadd Wiliam Aston – lleoliad sydd yn dal dros 800 o bobl. 

Mae Saith Seren wedi mynd o nerth i nerth fel canolfan i hybu’r iaith yn y gymuned ers ei sefydlu yn fuan wedi ymweliad diwethaf yr Eisteddfod i’n tref” meddai Nia Marshall Lloyd, aelod o bwyllgor trefnu’r gigs. 

“…gobeithiwn y bydd dychweliad yr Eisteddfod yn rhoi hwb ychwanegol wrth fod pobl o ledled y wlad yn gweld mor wych yw’r lle. Rydym yn falch felly y bydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn sicrhau y bydd y lleoliad yn ganolbwynt ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg yn y dref yn ystod yr ŵyl eleni.”

Wrth ddefnyddio canolfan fwy faint Neuadd Wiliam Aston ar gyfer rhai o’r nosweithiau, gobaith y trefnwyr yw denu pobl ychwanegol i mewn i Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Bydd y tair noson fawr yn Neuadd William Aston hefyd yn creu cyffro mawr, a gobeithiwn y caiff chwaneg o bobl eu denu i’r dref, hwyrach i dreulio’r dydd ar faes yr Eisteddfod cyn dod i’r gig gyda’r hwyr” eglura Nia Marshall Lloyd. 

“Mae hi’n addas mai dathliad o lwyddiant y tîm pel-droed cenedlaethol a’r egni newydd y maen nhw wedi ei roi i Gymru a’r Gymraeg fydd thema ein gig gyntaf yno, sef “Noson Y Wal Goch”. Bydd perfformiadau gan CELAVI, Candelas, Yws Gwynedd, gyda Tara Bandito i gloi, sydd oll gyda chysylltiadau gyda phêl-droed Cymru.”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn chwarae’r noson fawr fydd yn cloi wythnos yr Eisteddfod nos Sadwrn yn Neuadd Wiliam Aston, sef Blodau Papur, Mr a Bob Delyn a’r Ebillion.

“Rydym yn hynod o gyffrous o gael cyd-weithio gyda’r Gymdeithas trwy gynnal y gigs mawr yma” meddai Angharad Madog, Rheolwr y Gymraeg Theatr Clwyd a Neuadd William Aston.  

“Ers i Theatr Clwyd a Phrifysgol Wrecsam ddod at ei gilydd mewn partneriaeth i achub y neuadd gyngerdd anhygoel hon ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, mae’r ganolfan wedi mynd o nerth i nerth.

“Ein bwriad yw adeiladu ar waith Cymraeg yn Neuadd William Aston a Theatr Clwyd, a gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd ar garreg y drws gobeithiwn yn fawr fod hyn yn gychwyn ar bartneriaeth hyfryd rhyngom ni, a chynulleidfaoedd Cymraeg.”

Mae gig fawr nos Wener wrthi’n cael ei threfnu, a bydd manylion y gig honno yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r tocynnau ar gyfer sioeau nos Iau a nos Sadwrn yn Neuadd William Aston bellach ar werth ar wefan Neuadd Williams Aston. 

Bydd trefn nosweithiau Saith Seren yn cael eu cyhoeddi’n fyw yn y Ganolfan gan Geraint Lovgreen ar Ddydd Gŵyl Dewi (1/03), gyda thocynnau’n mynd ar werth yn lleol yn unig am fis cyn mynd ar werth yn gyffredinol.