Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi manylion y don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl boblogaidd yn 2025.
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau 2025, yn cael ei chynnal ar benwythnos 17-20 Gorffennaf.
Ymhlith yr artistiaid o Gymru fydd yn ymddangos ar brif lwyfan y Sesiwn Fawr yng Ngwesty’r Ship dros y penwythnos mae NoGood Boyo, 9bach, Celt, Yws Gwynedd, Ynys, Mynediad am Ddim a’r band Affro-ffync o Gaerdydd, Afro Cluster.
Ymysg y bandiau o du hwnt i’r ffin mae’r grŵp Celtaidd o’r Alban, Peatbog Faeries, a’r band gwerin o Québec, Le Vent du Nord.
Yn ogystal â gigs cefn y Ship, bydd tocyn penwythnos Sesiwn Fawr 2025 hefyd yn caniatáu mynediad at llwyfan acwstig newydd sbon ar y prynhawn Sadwrn yn Eglwys y Santes Fair, gyda pherfformiadau gan Cowbois Rhos Botwnnog, Blodau Papur, Brigyn, Awen Ensemble ac Irfan Rais.
Bydd yr ŵyl yn ymestyn dros bedwar diwrnod eto eleni, a bydd modd prynu tocyn unigol ar gyfer gig agoriadol y Sesiwn Fawr ar nos Iau, 17 Gorffennaf yn Eglwys y Santes Fair, a gig y Clwb Rygbi ar y nos Sadwrn 19 Gorffennaf yn nes at ddyddiad yr ŵyl.
Un o’r artistiaid fydd yn perfformio ar brif lwyfan y Ship dros y penwythnos ydy’r artist ifanc cyffrous, Buddug, ac mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ŵyl.
“Gafon ni lot o hwyl yn chwarae yn gig y Clwb Rygbi yn Sesiwn Fawr llynedd – y gig cyntaf i ni gael ein bwcio fel band” meddai Buddug.
“‘Dwi’n edrych ymlaen at gael dod yn ôl i’r Sesiwn eleni a chael y cyfle i chwarae ar y brif lwyfan yng Nghefn y Ship am y tro cyntaf.”
Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, ac un o sylfaenwyr yr ŵyl ydy Ywain Myfyr, a dywed fod y trefnwyr yn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfa hen a newydd i Ddolgellau eleni.
“Mi ydan ni’n benderfynol o barhau i gynnal naws groesawgar a chynhwysol y Sesiwn, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd a lleol fel ei gilydd” meddai Ywain Myfyr.
“Rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd cynulleidfa newydd yn ogystal â hen ffrindiau i Ddolgellau ym mis Gorffennaf.”
Bydd rhaglen lawn Sesiwn Fawr Dolgellau 2025 yn cael ei chyhoeddi yn nes at yr ŵyl.