Mae dwy restr fer arall ar gyfer categorïau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ers nos Fercher 19 Chwefror.
Dros y dair ddiwethaf mae chwech o restrau byr wedi’u datgelu’n ecsgliwsif ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd sef ‘Artist Unigol’, ‘Cân Orau’, ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, ‘Gwaith Celf Gorau’, ‘Record Fer Orau’ a ‘Record Hir Orau’ 2024.
Nawr mae dwy restr fer arall yn hysbys sef ‘Band Gorau’ a ‘Seren y Sin’.
Mae ‘Seren y Sin’ yn wobr boblogaidd bob tro ac yn gyfle i ffans cerddoriaeth Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad i rai o arwyr tawel y sin. Y tri enw ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus eleni oedd Llew Glyn Williams, Yws Gwynedd a Mirain Iwerydd.
Mae’r wobr am y ‘Band Gorau’ hefyd yn un sydd hefyd yn ennyn tipyn o gyffro ar noson y gwobrau a’r tri band sydd ar y rhestr fer y otr hwn ydy enillwyr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ 2023, Dadleoli, y bytholwyrdd Cowbois Rhos Botwnnog ac enillwyr y wobr hon llynedd, Fleur De Lys.
Bydd enillwyr y gwobrau hyn, ynghyd a’r gweddill yn cael ei datgelu yn ystod digwyddiad Gwobrau’r Selar yn Arad Goch, Aberystwyth ar nos Sadwrn 1 Mawrth.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gig hwnnw, fydd yn cynnwys perfformiadau gan Buddug, Dadleoli, Taran a TewTewTennau ar wefan Y Selar nawr.
Bydd rhestrau byr y ddau gategori ar ôl i’w cyhoeddi yn cael eu datgelu ar raglen Mirain Iwerydd wythnos nesaf, ar nos Fercher 16 Chwefror.
Band Gorau
Dadleoli
Cowbois Rhos Botwnnog
Fleur De Lys
Seren y Sin
Llew Glyn Williams
Yws Gwynedd
Mirain Iwerydd