Mae Ani Glass yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd wrth iddi baratoi at gyhoeddi ei halbwm nesaf.
‘Phantasmagoria’ ydy enw’r trac newydd arallfydol gan yr artist bop-electronig.
Y newyddion da pellach ydy mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl gan mai ‘Phantasmagoria’ ydy’r teitl-drac ar gyfer ei hail albwm unigol, sydd ar y ffordd yn fuan.
Wrth ryddhau’r sengl newydd, mae Ani eisoes wedi cyhoeddi fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Lowri Palfrey.
Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir gyntaf Ani Glass, sef Mirores, a ryddhawyd ar ddechrau 2020, jyst cyn y cyfnod clo.
Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ cafodd yr artist o Gaerdydd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis.
Mae’r albwm yn un aml-ieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw.
Mae ‘Phantasmagoria’ yn tynnu ynghyd yr ieithoedd a chyfryngau amrywiol sydd gan Ani at ei defnydd er mwyn adlewyrchu cyfnod arwyddocaol yn ei bywyd.
Mae’r sengl gyntaf o’r albwm yn plethu themâu o ddŵr a chwsg i greu tirwedd sain sain hudolus ynghyd â llais canu etheraidd.
Ceir offeryniaeth gyfoethog gan gynnwys y synth sy’n cael ei chwarae gan gyd-gynhyrchydd y trac, Iwan Morgan, a ffliwt chwyrlïog gan Laura J Martin.
Mae’r albwm yn adlais o waith cynnar y band Goldfrapp, ynghyd ag awgrymiadau o lais cerddoriaeth Enya.
Bydd yr albwm yn dilyn ar 26 Medi, dyma fideo’r sengl: