Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Paralel, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.
‘Angerdd’ ydy enw’r blas cyntaf a gawn o’r band ac mae allan ar y label recordio Label Amhenodol.
Criw o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yw ‘Paralel’ a ffurfiodd fel rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno…’ Menter Caerdydd a Tafwyl 2024.
Cafodd y band hefyd eu henwi fel un o’r bandiau i gadw llygad arnynt yn 2025 gan Y Selar.
Mae’r band wedi cael ychydig wythnosau reit brysur yn perfformio yn Tafwyl a Gŵyl Pride Caerdydd, ac mae’r criw yn edrych ymlaen i weld beth ddaw nesa’ iddyn nhw.
I gyd-fynd gyda chyhoeddi’r sengl mae’r band wedi cael cyfle i ffilmio fideo ar gyfer y trac fel rhan o gronfa Fideos PYST X S4C. Cafodd y fideo ei ryddhau ar blatfform digidol AM Cymru ar y 27 Mehefin.
Mae’r fideo yn adrodd stori artist celf yn dilyn cyfnod o ddryswch wrth ddatblygu darn newydd o gelf.