‘Cyswllt Polska’ Mr Phormula 

Mae’r y rapiwr gweithgar, Mr Phormula, wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n ffrwyth prosiect cydweithredol newydd sbon. 

‘Cyswllt Polska’ ydy enw’r trac newydd unigryw sy’n ei weld yn cyd-weithio  gyda’r rapwyr rhyngwladol eraill Dogas, Timothyzic a Lord Willin.

Mae’r sengl yn dynodi dechrau prosiect newydd gan Mr Phormula o’r enw ‘Cymraeg Worldwide’- “…y syniad ydi cymysgu Cymraeg efo mond ieithoedd gwahanol yn rhwngwladol” meddai Ed Holden, sef Mr Phormula.

Yn ôl Ed mae ganddo lawer o gynlluniau ar gyfer y prosiect, gan gynnwys y sengl gyntaf yma lle mae’n cyd-weithio gyda’r rapwyr o Wlad Pwyl,, Dogas a Timothyzic.