Breichiau Hir yn rhyddhau ‘Dim Ymladd Nôl’

Mae’r band roc amgen o Gaerdydd, Breichiau Hir, wedi rhyddhau’r sengl olaf o’u halbwm ‘Y Dwylo Uwchben’.  

‘Dim Ymladd Nôl’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf o ail albwm y band, ac mae fideo newydd i gyd-fynd â’r trac hefyd.

Rhyddhawyd ‘Y Nen Uwchben’ ym mis Ebrill eleni gan ddilyn tair sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’, ‘Paid Trio’, a ‘Tynnu Fi Fel Cortyn’.

Gwledd drwm o gitâr dwys sy’n gweld y band yn symud tuag at diriogaeth post-metal am y tro cyntaf a glywir ar ‘Dim Ymladd Nôl’. 

“Mae’r gân hon yn ymwneud â dod i delerau â chi’ch hun mewn byd sy’n aml yn eich gwthio i gydymffurfio neu ddatgysylltu” meddai prif leisydd y band Steffan Dafydd.  

“Mae tensiwn rhwng yr awydd i fynd gyda’r llif a’r atyniad mewnol i fyfyrio, gwrthsefyll, neu wyro – hyd yn oed os yw hynny’n teimlo’n ffôl neu’n boenus. 

“Mae’n delio â phwysau meddyliol, twf personol, a melancoli.”

‘Dim Ymladd Nôl’ yw’r sengl olaf i’w chymryd oddi ar eu hail albwm clodwiw Y Dwylo Uwchben, sydd allan nawr trwy, Halen Records. 

Gan gyfuno’r angerddol a’r bregus, mae Breichiau Hir wedi gwahaniaethu eu hunain o fewn sîn gerddoriaethfywiog Caerdydd gyda’u dehongliad unigryw o gerddoriaeth roc yn yr iaith Gymraeg. 

Mae eu sioeau byw dwys yn gwahodd catharsis trwy fewnblygu ac egni digyfyngiad. Mae eu gallu i newid o waliau swnllyd ffrwydrol i ostinato gossamer yn caniatáu i’r band atseinio o’r lleoliadau gigs bach  i lwyfannau gŵyliau.

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd newydd brofi sioeau byw egnïol y grŵp dros yr hydref wrth iddynt gefnogi Goldie Lookin Chain ar eu taith ledled y DU. Bydd y band hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd fis Hydref. 

 

Gigs Breichiau Hir yn yr hydref:05.09.25 – Manceinion – Academy 2 *

06.09.25 – Kendal – Brewery Arts (Malt Room) *

10.10.25 – Nottingham – Metronome *

11.10.25 – Stourbridge, Town Hall*

17.10.25 – Gŵyl Sŵn, Caerdydd

18.10.25 – Frome – Cheese & Grain *

25.10.25 – Ipswich – Corn Exchange *

07.11.25 – Reading – Sub89 *

08.11.25 – Southampton – Engine Rooms *

* gyda Goldie Lookin Chain

Dyma’r fideo: