Rhyddhau sengl gyntaf Emma Davies-Warhurst

Mae yr Urdd wedi rhyddhau sengl gyntaf gan yr artist ifanc a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Band/Artist Unigol Blwyddyn 7-13 Eisteddfod yr Urdd llynedd.

Cynhelir y gystadleuaeth ar faes Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn fel rhan o Ŵyl Triban a’r artist buddugol yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod llynedd oedd Emma Davies-Warhurst o Ysgol Uwchradd Aberteifi. 

Y gân wreiddiol a berfformiwyd ganddi yn y gystadleuaeth oedd ‘I’r Nefoedd’, ac mae’n briodol mai dyma yw ei sengl gyntaf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror. 

Mae Emma yn hen law ar gyfansoddi, ysgrifennu a pherfformio caneuon ei hun. Mae’n chwarae nifer o offerynnau gan gynnwys y piano, sydd i’w chlywed ar ei sengl gyntaf. Mae hi a’i chwaer hefyd wedi sefydlu grŵp canu o’r enw Chwaer ac maen nhw’n brysur iawn yn perfformio mewn nifer o gigs o gwmpas Gorllewin Cymru. Mae’r grŵp hefyd dan label Fflach Cymunedol.

Cafodd gwobr Cystadleuaeth Band/Artist Unigol Blwyddyn 7-13 Eisteddfod yr Urdd 2024 ei ariannu gan Gronfa Fideos PYST x Lŵp ac felly yn sgil ennill y wobr, cafodd Emma y cyfle i recordio ei chân buddugol mewn stiwdio broffesiynol sef Stiwdio JigCal, Caerdydd gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu.

Yn ogystal â hynny, cafodd myfyriwr ffilm a fideo ifanc Ruby Smith-Brown y cyfle i ffilmio fideo cerddoriaeth ‘I’r Nefoedd’ o amgylch Aberteifi, tref enedigol Emma.