Mae’r grŵp dawns poblogaidd, Diffiniad, yn parhau â’u adfywiad cerddorol ac wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Ceiniog a Dimau’ ydy enw’r sengl newydd gan Diffiniad sydd allan ers dydd Sadwrn 15 Chwefror.
Dyma’r cynnyrch newydd diweddaraf gan y grŵp a ffurfiodd yn wreiddiol yn Yr Wyddgrug ar ddechrau’r 1990au, gan ddilyn y trac ‘1992’ a laniodd ym mis Tachwedd 2024.
“Gan ddychwelyd i berffeithrwydd pop pur, mae Diffiniad yn ôl gyda chân sy’n fwy o dorri drych adain dy gar na thorri dy galon” meddai’r band gyda thafod ym moch.
Ar ôl bod yn westai lleisiol ar y trac ‘Woop Woop’ a ryddhawyd yn 2021, mae Glain yn ôl i ganu ar y sengl ddiweddaraf, ac yn ngeiriau’r band yn ‘rhoi’i throed ar y sbardun ac yn ei llorio hi”.