Wedi sawl blwyddyn o egwyl o berfformio, mae canwr-gyfansoddwr Dïon Wyn, yn dychwelyd gydag EP dwy-ieithog newydd dan yr enw ‘I’r Diwedd’.
Mae Dïon Wyn hefyd yn gyfarwydd fel cyfarwyddwr ffilm, felly nid yw’n syndod ei fod hefyd yn gollwng ffilm arbennig i gyd-fynd â’r record fer.
Bydd y ffilm yn cael ei ddarlledu ar YouTube ar 2 Gorffennaf, gyda’r EP yn glanio ar y llwyfannau digidol arferol ar yr un dyddiad.
Ffilm ‘sesiwn fyw’ ydy’r fideo, a’r hyn sy’n gwneud y cyfan yn fwy unigryw fyth ydy bod y ffilm a’r EP wedi eu recordio i gyd mewn un noson.
Roedd Dïon Wyn yn aelod o’r band The Routines, ac ar ddechrau 2020 roeddent newydd ryddhau eu halbwm cyntaf ac yn paratoi ar gyfer haf llawn yn perfformio mewn gwyliau ledled Prydain…nes i Covid gyrraedd a chwalu’r cynlluniau i gyd.

Fe gafodd hyn effaith andwyol ar y band ac ar Dïon ei hun, fel yr eglura’r cerddor.
“Roedden ni newydd ryddhau ein albwm cyntaf fel The Routines ac ar fin chwarae haf o festivals mawr — efo rhai o’n heroes ni, popeth roedden ni wedi gweithio amdano am flynyddoedd — wedyn daeth Covid â’r cyfan i ben, fel gymaint o fandiau eraill,” meddai Dïon.
“Ond ar ôl ‘neud yr albwm a hyn yn digwydd, mi oni’n wâg, a dw i heb berfformio’n iawn ers hynny.
“Doedd gwneud y ffilm yma ddim yn fan cychwyn, ond yn ffordd o orffen y bennod — ar fy nhermau i, os ta’r diwedd yw hyn.”
Recordiwyd y ffilm yn ei ystafell fyw, mewn un noson heb unrhyw retake, ac mae’n cynnwys pump o ganeuon gwreiddiol — storïau personol ac arsylwadol yn Gymraeg a Saesneg.
“Do’n i ddim eisiau ymarfer o i farwolaeth,” eglura Dïon wrth egluro’r modd yr aeth ati.
“Roeddwn i eisiau iddo deimlo’n onest – un take, dim ond fi yn yr ystafell. Dyna yw’r ffilm hon: y fersiwn fwyaf crai o’r caneuon, a fi fy hun.”
Bydd ‘I’r Diwedd (To The End)’ yn cael ei ddarlledu ar YouTube ar 02/07/2025, gydag isdeitlau dwyieithog ar gael a bydd yr EP allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol ar yr un dyddiad.
Dyma’r ffilm: