Mae’r band Cyn Cwsg wedi rhyddhau eu EP cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mehefin.
‘Pydru yn yr Haul’ ydy enw’r casgliad byr newydd sydd allan ar label Lwcus T.
Yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau y llynedd gan gynnwys ‘Gwranda Frawd’, ‘Hapusach’ a’u trac diweddaraf ‘Only Time’ ddechrau’r mis, mae Cyn Cwsg bellach yn barod i ryddhau eu EP cyntaf.
Mae ‘Pydru yn yr Haul’ yn gasgliad lliwgar o ganeuon sy’n siŵr o fyw yn yr isymwybod.
Wedi i’w traciau cyntaf ymgartrefu ar raglenni BBC 6 Music, BBC Radio Wales a Radio Cymru, mae corff cyflawn cyntaf Cyn Cwsg yn ffrwyth llafur cydweithrediad newydd gyda’r cynhyrchydd Tom Rees o’r band Buzzard Buzzard Buzzard.
Yn gwyro o’u dylanwadau breuddwydiol, mae’r deunydd newydd yn mynd i gyfeiriad roc meddal y 1970au a’r 1990au gan blethu’r ifanc a’r aeddfed, yr amgen a’r amlwg.
O alawon cynnes ‘Diarhebion’ i ganu gwlad bron ‘Gecko’ — sydd hefyd yn cynnwys llais euraidd Mared — mae’r EP yn dapestri bywiog sydd wedi’i weu at ei gilydd gan linellau gitâr gwifrog, lleisiau sych, a harmonïau hylifol.
Dyma’r trac ‘Diarhebion’: