Albwm cyntaf Chwaer Fawr yn glanio

Ar ôl gollwng cwpl o senglau fel tameidiau i aros pryd, mae albwm cyntaf Chwaer Fawr bellach wedi’i ryddhau’n llawn. 

‘Diwedd’ ydy enw record hir gyntaf prosiect cerddorol diweddaraf Mari Morgan, ac mae allan ar label Klep Dim Trep. 

Mae’r albwm allan ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig, CD ac ar y llwyfannau digidol arferol, gyda gwaith celf gan Esyllt Angharad Lewis. 

Chwaer Fawr ydy prosiect unigol yr artist Mari Morgan sydd yn y gorffennol wedi bod yn aelod o’r bandiau Saron, Bitw a Rogue Jones. 

Daw’r albwm ar ôl rhyddhau tair sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Byw yn ôl y Sôn’, ‘Mabolgampau’, a theitl-drac yr albwn, ‘Diwedd’. 

Mae enw ei halbwm newydd, ‘Diwedd’, yn wrthgyferbyniad o’r hyd mae’n ei gynrychioli wrth gwrs, gan mai dyma ydy’r dechrau ar gyfer y prosiect, neu efallai y gellid ei ddisgrifio fel diweddglo dechrau y prosiect hyd yn oed. 

Cafodd yr albwm ei ysgrifennu a’i recordio’n raddol gartref gyda ffrindiau, ac mae ‘Diwedd’ wedi tyfu’n amyneddgar ac yn naturiol. Wedi blynyddoedd o chwarae ym mandiau pobl eraill, roedd yn amser i Mari ganfod ei llais ei hun fel canolbwynt ar gyfer y prosiect diweddaraf. 

Mae caneuon y record i gyd yn cael ei canu yn y Gymraeg, ac yn archwilio’r tensiynau rhwng diniweidrwydd a chyfrifoldeb, rhwng bregustod a gwrthiant tawel. 

Clywir ar yr albwm y ddeuoliaeth rhwng rhyfeddod dod yn fam am y tro cyntaf ynghyd â phryderon y byd modern, gan blethu themâu o heddwch, gobaith a’r awch i godi uwchben y cyfan. Mae adar a hedran yn ddelweddau a welir yn gyson trwy’r albwm fel symbolau o ryddid, bregusrwydd a herfeiddiwch.

Yn gerddorol mae ‘Diwedd’ yn gorwedd mewn cornel ddifyr o gerddoriaeth alt-pop lliwgar a lletchwith. Mae’n cynnwys cyfraniadau offerynnol gan Llŷr Pari (Gwenno, Omaloma), Alex Morrison (Cate Le Bon, H. Hawkline), and Gwion Llewelyn (Aldous Harding, Villagers), a gwaith cynhyrchu gan Gruff ab Arwel (Bitw, Y Niwl).

Er gwaetha’ enw’r albwm, nid diweddglo ydy ‘Diwedd’ o gwbl, ond yn hytrach dechreuad pennod gerddorol mwy personol. 

Dyma’r fideo ar gyfer y teitl drac: