Rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar

Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes Y Selar wedi’i gyhoeddi mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. 

Yn ôl yr arfer mae’r cylchgrawn yn cynnwys pob math o erthyglau am gerddoriaeth Gymraeg. 

Yr artist ifanc dalentog o Frynrefail, Buddug, sydd ar glawr y rhifyn newydd ac mae cyfweliad gyda hi yn y rhifyn dan ofal Elain Roberts. 

Ceir cyfweliad hefyd gyda Cordia gan Elen Morlais a Cyn Cwsg gan Angharad Rhiannon. 

Mae Gruffudd ab Owain yn rhoi sylw i fandiau sydd wedi atgyfodi yn y rhifyn – yn benodol felly Diffiniad, Crys, Gwibdaith Hen Frân ac Anweledig. 

Bu Lois Gwenllian yn holi Ynyr Roberts am ei brosiect pop, Popeth, ar gyfer y rhifyn hwn, ac mae Elain Gwynedd hefyd wedi bod yn sgwrsio gydag Elis Derby am y band Ciwb a’u halbwm newydd. 

Y nofel ‘Tempo’ gan Rhianedd Jewell sy’n cael sylw eitem ‘Trac Sain Dy Nofel’ ac mae eitem ‘Geiriau’r Gân’ yn canolbwyntio ar y trac ‘Y Newid’ gan Mynadd. 

Bydd copïau o’r Selar ar gael yn rhad ac am ddim ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ynghyd ag yn y mannau arferol eraill. Bydd fersiwn digidol y cylchgrawn hefyd ar gael ar wefan Y Selar.

Cliciwch y clawr isod i ddarllen y fersiwn digidol