Ddeufis wedi iddynt ryddhau eu halbwm newydd, ‘Diddiwedd’, mae Diffiniad wedi rhyddhau rhagor o gynnyrch newydd ar ffurf EP sy’n gasgliad o 4 fersiwn o un o draciau’r record hir
‘Dawnsio Ben Fy Hun’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf gan y band a ffurfiodd yn wreiddiol ar ddechrau’r 1990au.
Yn dilyn rhyddhau eu casgliad cyflawn cyntaf ers bron i dri deg mlynedd fis Mai, mae’r band chwedlonol o’r Wyddgrug yn ôl gyda record arall ac i’w gweld yn cydweithio gyda dau o artistiaid electronig mwyaf blaenllaw Cymru heddiw, sef y cerddor a’r cynhyrchydd, Sywel Nyw, a’r frenhines pop, Ani Glass.
Tra bod y gân ei hun — yr olaf oddi ar yr albwm deuddeg trac — yn ein tywys o gyfeiriad etheraidd y synths seismig i deimlad hiraethus ei churiadau cynnes, mae’r ddau ailgymysgiad newydd yn cynnig arddulliau mwy amgen, mwy cryno i’r gwreiddiol, gan greu byd lle gall pop, dawns ac electronica, gyd-fyw.
“Braint a phleser llwyr oedd cael ailgymysgu cerddoriaeth un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru,” meddai Ani Glass am y cydweithio a’r creu.
“Edit house gen i o un o dracia’ newydd Diffiniad — i’w chwarae wedi’ddi dywyllu” meddai Sywel Nyw.
Gyda’u halbwm diweddaraf yn cadarnhau eu lle ymysg cewri’r 90au, bydd EP pedwar trac newydd Diffiniad, ‘Dawnsio Ben Fy Hun’, allan ddydd Gwener yma cyn iddynt gloi nos Sadwrn cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar 2 Awst.
Dyma fersiwn Ani Glass o’r trac: