Mae Ffos Goch wedi rhyddhau blas cyntaf o albwm newydd y prosiect cerddorol ar ffurf y sengl ‘Noson y Biniau Byw’.
Ffos Goch ydy prosiect y cerddor profiadol o Birmingham, Stuart Estell, ac mae’n cael cwmni gwestai arbennig iawn ar ei sengl ddiweddaraf, sef Pat Morgan o’r band Datblygu.
Mae ‘Noson y Biniau Byw’ yn chwarae gyda’r cysyniad o gerddoriaeth ‘house’ a’r ymadrodd “everybody’s in the house” oedd yn gyffredin iawn yn yr wythdegau hwyr.
Mae dylanwad y grwpiau Datblygu a The Fall yn amlwg iawn ar y trac newydd, ond mae’r gerddoriaeth hefyd yn cyfeirio at artistiaid electronig fel Coldcut.
Daw’r sengl newydd o albwm nesaf Ffos Goch fydd yn dwyn yr enw ‘Byd Sbwriel’, a bydd sengl arall i gynnig blas yn dilyn fis Ebrill sef ‘Yr Ynfytyn Hwylio’.
“Dwi wedi cadw mewn cyswllt gyda Pat ers i ni gwrdd yn Llanbed ar benwythnos Dathlu Datblygu yn 2022” eglura Stuart wrth drafod ei westai ar y sengl.
“Yn ystod yr hydref diwetha, o’n i’n dioddef o damaid bach o writers block, so o’n i isie gwneud rhywbeth hwyl i ddadflocio fy hunan.
“Ar y pryd, o’n i newydd brynu Stylphone, ac o’n i’n gwbod bod Pat hefyd yn ffan mawr o’r synth poced uffernol ‘na. So hales i neges Whatsapp ati hi, yn esbonio bod writers block arna i, a gofyn fyddai hi’n licio recordio deuawd Stylphone. Syniad hollol gall.
“Daeth neges yn ôl. “Fel cleren rownd bin bag.” Cyn hir derbynies i ffeil o Pat yn mynd yn wyllt ar y Stylophone – ond mewn gwirionedd, ei geiriau hi wnaeth fy nadflocio, a datblygodd ‘Noson y Biniau Byw’, ynghyd â sawl remix, o hynny ymlaen.”