Mae The Gentle Good wedi cyhoeddi manylion lansiad ei albwm newydd, ‘Elan’.
Mae’r cerddor profiadol eisoes wedi rhyddhau blas o’i record hir ddiweddaraf ar ffurf y senglau ‘Tachwedd’ a ‘Ten Thousand Acres’ gydag addewid o’r albwm llawn yn glanio ym mis Mai eleni.
Bellach mae wedi datgelu y bydd yn cynnal lansiad arbennig yn CULTVLAB yng Nghaerdydd ar 17 Mai, ddiwrnod ar ôl dyddiad rhyddhau ‘Elan’.
Bydd y sioe yn cynnwys y band llawn ynghyd â’r pedwarawd llinynnol, Mavron Quartet. Bydd cefnogaeth ar y noson gan Laura J Martin ac mae tocynnau ar werth nawr am £17.50.