Mae fideo ar gyfer sengl newydd Dom & Lloyd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
‘Disgwyl’ ydy enw’r trac newydd i ollwng gan y ddeuawd hip-hop, ac mae ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Mae’r sengl yn dilyn cyfres o senglau llwyddiannus ac eu EP diweddar, ‘Galwad’.
Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Lemarl Freckleton, ac wedi’i gynhyrchu gan Ynyr Morgan Ifan a Owain Jones.