Blas cyntaf o ail albwm Breichiau Hir

‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’ ydy enw sengl newydd y band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, sydd wedi’i ryddhau i gyd-fynd â’r newyddion bod ail albwm y grŵp ar y ffordd.

Breichiau Hir ydy’r band chwe aelod sydd wedi bod yn amlwg ar lwyfannau Cymru ers blynyddoedd maith bellach. Er hynny, dim ond yn 2021 y rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Hir Oes I’r Cof’, ond maent bellach yn barod i ryddhau ail record hir i’w casgliad. 

‘Y Dwylo Uwchben’ ydy enw’r casgliad newydd fydd allan ar 11 Ebrill ar label Halen Records. 

Fel tamaid cyntaf i aros pryd nes yr albwm, maent wedi rhannu ‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’ fel sengl ers 22 Ionawr, gan gynnig blas o’r hyn sydd i ddod, ynghyd â fideo swyddogol i’r trac gan Michael McCann. 

Bydd sioe arbennig i lansio’r albwm yn cael ei chynnal ar yr 17 Ebrill 2025, yng Nghlwb Ifor Bach, yn ninas enedigol y band, Caerdydd.

Mae’r sengl yn delio â themâu o fregusrwydd, cryfder, a blinder yn sgil brwydro yn erbyn gwrthdaro mewnol ac allanol bywyd. Mae ‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’ yn adlewyrchu’r cylchdro di-baid o gael yr awydd i frwydro, neu yr ofn i ildio.

“Ro’n i eisiau adlewyrchu cymhlethdodau gwytnwch, lle mae parhau i ddal gafael a gadael i fynd yn gallu bod yr un mor anodd” meddai prif leisydd y band, Steffan Dafydd, wrth drafod y sengl newydd.

“Aethon ni i ffwrdd am wythnos i ‘sgwennu’r ail albwm, a oedd popeth yn teimlo’n hollol newydd – yn bennod hollol newydd i’r band – felly mae’r trac yma’n adlewyrchu’r teimlad yna.

“Wrth ddechrau ysgrifennu geiriau’r gân hon, o’n i eisiau iddi swnio’n obeithiol ac yn bositif. Mae’r gerddoriaeth yn dod gyntaf, ac yna’r geiriau, ar ôl i naws pob cân setlo yn fy ymennydd. 

“Dw i’n tueddu ‘sgwennu mewn llif o ymwybyddiaeth i osgoi gorfodi’r geiriau i ddod mas, wedyn dw i’n mynd nôl ati i wneud yn siŵr fod yr holl eiriau’n llifo. Pan ddaeth hi’n bryd edrych dros eiriau’r gân hon, ro’n i’n teimlo bod ganddi ryw naratif golau yn erbyn tywyllwch, ond do’n i ddim yn siŵr ar ba ochr oedd hi’n disgyn.”

Drwy fregusrwydd perfeddol, mae Breichiau Hir wedi gwahaniaethu eu hunain o fewn sîn gerddoriaeth fywiog Caerdydd gyda’u hagwedd unigryw tuag at gerddoriaeth roc Gymraeg. Mae eu sioeau byw yn ddwys ac yn annog pobl i ymgolli mewn sŵn ac egni pur. 

Drwy ystyried pwrpas a gweithred unigolyn, a’r frwydr rhwng yr hyn sydd i ddod, a’r hyn y gall person ei newid, mae ail albwm Breichiau Hir, ‘Y Dwylo Uwchben’ yn addo adeiladu ar enw da’r band am gyfansoddi caneuon bachog â seinwedd eang, sy’n parhau i fod yn bersonol a’n authentic.

Bydd ‘Y Dwylo Uwchben’ yn cael ei ryddhau ar yr 11 Ebrill drwy Halen Records.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl:

Gadael Ymateb