Cyhoeddi lein-yp, a rhestrau byr cyntaf, Gwobrau’r Selar 

Neithiwr, ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd fe gyhoeddwyd pa artistiaid fydd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ar 1 Mawrth, ynghyd â dwy o’r rhestrau byr eleni.

Roedd golygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd ab Owain, yn westai ar raglen Mirain ac fe ddatgelodd mai’r artistiaid fydd yn perfformio yn y gig ydy Buddug, Dadleoli, Taran a TewTewTennau…ynghyd ag un band anhysbys am y tro!

Yn gynharach yn y flwyddyn fe gyhoeddodd  Y Selar bod digwyddiad enwog Gwobrau’r Selar i ddychwelyd eleni am y tro cyntaf ers Chwefror 2020. 

Wrth wneud hynny, fe agorwyd pleidlais Gwobrau’r Selar hefyd gan roi’r cyfle i’r cyhoedd ddewis y rhestrau byr ac enillwyr. Nawr, gyda’r bleidlais wedi cau, mae’r trefnwyr yn barod i ddatgelu lein-yp y noson lle bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno. 

Lleoliad newydd, ac artistiaid newydd

Canolfan Arad Goch yn Aberystwyth ydy lleoliad Gwobrau’r Selar wrth iddo ddychwelyd ar 1 Mawrth, ac roedd Gruffudd ab Owain, sef golygydd cylchgrawn Y Selar, ar raglen Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru nos Fercher (29 Ionawr) i ddatgelu pa artistiaid fydd yn perfformio. 

Pump o fandiau ac artistiaid ifanc a chyffrous fydd yn perfformio ar y noson, ac mae hynny’n adlewyrchu ymrwymiad Y Selar i hyrwyddo cerddoriaeth newydd ar un llaw, ond hefyd yn adlewyrchu’r artistiaid sydd wedi bod yn boblogaidd ym mhleidlais Gwobrau’r Selar ar y llall. 

Bydd dau fand ifanc o Gaerdydd yn perfformio ar y noson, sef Dadleoli a Taran. Roedd 2024 yn flwyddyn gofiadwy i’r ddau fand gyda Dadleoli’n rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Fy Myd Bach i’, ym mis Gorffennaf a Taran yn rhyddhau eu EP cyntaf hwythau, ‘Dyweda, Wyt Ti…’ yn yr un mis. 

Ar ôl ffrwydro i amlygrwydd ar ddiwedd 2023 gyda’i sengl ardderchog ‘Dal Dig’ mae Buddug wedi mynd o nerth i nerth yn ystod 2024, a bydd croeso mawr iddi hithau ar lwyfan y Gwobrau. Yn ogystal â rhyddhau dwy sengl arall, roedd y artist o Frynfefail yn amlwg iawn ar lwyfannau byw yn 2024, gan gynnwys perfformio tri gig llwyddiannus yn Eisteddfod Pontypridd yn ogystal ag ymddangos fel gwestai arbennig yn ystod setiau Yws Gwynedd yno. 

Band arall o’r gogledd sydd wedi cael blwyddyn ardderchog ydy TewTewTennau o Lansannan. Ar ôl cyfes o senglau, rhyddhaodd y grŵp addawol eu halbwm cyntaf, ‘Sefwch Fyny’, ym mis Mai a bu iddynt gigio’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. 

Slot i enillwyr gwobr goffa

Bydd un band anhysbys arall … am y tro o leiaf … yn perfformio ar y noson sef y band buddugol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Richard a Wyn Fflach eleni. Cynhelir y gystadleuaeth yng Nghanolfan Hermon ar 14 Chwefror, a bydd y band buddugol yn ennill slot gwerthfawr yng Ngwobrau’r Selar. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i groesawu pawb yn ôl i Wobrau’r Selar ar 1 Mawrth, ac yn falch iawn o’r lein-yp cyffrous fydd yn perfformio ar y noson” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar a threfnydd y Gwobrau. 

“Mae’r arlwy’n adlewyrchu’r sin ifanc ac egniol sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac mae’n amlwg bod yr artistiaid yma ac eraill wedi gwneud eu marc yn ystod 2024 – bydd hynny’n dod yn amlwg wrth i ni ddatgelu rhestrau byr y Gwobrau dros yr wythnosau nesaf.

“Roedden ni’n teimlo ei bod hefyd yn gyfle da i gyd-weithio gyda threfnwyr gwobrau coffa Ail Symudiad a chynnig slot i enillwyr Gwobr Goffa Richard a Wyn Fflach eleni. Yn ogystal â dathlu’r flwyddyn a fu, bydd hyn yn ychwanegu at y teimlad o edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.”

Datgelu dwy restr fer gyntaf

Hefyd ar raglen Mirain Iwerydd, fe gyhoeddodd Y Selar ddwy o restrau byr y Gwobrau eleni sef ‘Gwaith Celf Gorau’ a Band neu Artist Newydd Gorau. 

Dyma’r tri ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus yn y ddau gategori hynny

Gwaith Celf Gorau

Dub yn y Pub – Morgan Elwy

Dyweda, Wyt ti – Taran

Heddiw – Eden

 

Band neu Artist Newydd Gorau

Buddug

TewTewTennau

Taran

 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 1 Mawrth. Mae tocynnau gig Gwobrau’r Selar ar werth nawr trwy wefan Y Selar

 

View this post on Instagram

 

A post shared by BBC Radio Cymru 2 (@bbcradiocymru2)

Gadael Ymateb