Mae cân Gymraeg newydd gan Francis Abigail Bolley wedi’i rhyddhau ers dydd Gwener diwethaf 4 Gorffennaf.
‘i siarad’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist o Gaerdydd sydd allan ar label Sionci, Tŷ Cerdd.
Mae’r gân yn nodi parhad y prosiect AffriCerdd – sef partneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol i gefnogi artistiaid o liw i weithio’n greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfansoddwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2024 fel rhan o’r fenter gydweithredol Deillia hyn o ymrwymiad y ddau sefydliad i ennyn diddordeb a chefnogi ystod amrywiol o grewyr cerddoriaeth i greu gwaith yn y Gymraeg.
“Mae hi wedi bod yn fraint cael fy nghomisiynu i ysgrifennu ar gyfer yr Eisteddfod” meddai Frances wrth drafod y sengl newydd.
“Er nad ydw i’n siaradwr rhugl, dwi’n caru’r Gymraeg ac yn credu ei bod hi’n iaith hardd, farddonol.
“Roedd hi’n bwysig iawn i mi fod yr hyn ro’n i’n ei ysgrifennu nid yn unig yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg ond ei fod hefyd yn llifo’n farddonol.”
Gwerth geiriau
Mae ‘i siarad’ yn archwilio gwerth geiriau gan gyffwrdd a’r ymdrechion hanesyddol i waredu’r iaith Gymraeg. Mae’r gân hefyd yn codi cwestiynau ynghylch a’r berthynas rhwng iaith a lle, gan ddefnyddio dau ddarn o farddoniaeth gan Ann Griffiths a David Whyte.
“A finnau’n berson awtistig rhannol ddieiriau sydd weithiau methu â siarad, i mi mae hefyd yn ymwneud â gwerth geiriau a’r pwysau sy’n cael ei roi ar y weithred o lefaru” ychwanegodd Frances.
Cafodd Frances ei mentora drwy gydol y broses gan yr artist blaenllaw o Gymru, Eädyth Crawford, gan ddatblygu ei hyder i ysgrifennu a pherfformio geiriau caneuon yn y Gymraeg.
Dechreuodd y fenter AffriCerdd yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân bryd hynny) a chefnogwyd pum artist lliw i ysgrifennu caneuon newydd yn y Gymraeg, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – gyda mentora gan Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.
Y llynedd oedd blwyddyn gyntaf y prosiect o dan yr ymbarél AffriCerdd.
Bydd hefyd fideo yn cyd-fynd â’r trac, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C.