Mae label Sain a Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wedi partneru i ryddhau albwm gwerin amlgyfrannog arbennig a fydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol, ar CD ac ar feinyl.
Dyma’r ail record yn y gyfres ‘Stafell Sbâr Sain’ ac fe fydd allan yn ddigidol ac ar CD ar 25 Gorffennaf gyda’r fersiwn feinyl i ddilyn ym Medi 2025.
Mae’r record yn ddilyniant i ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd llynedd ac oedd yn gweld Sain yn cyd-weithio gyda’r zine cerddoriaeth, Klust.
Mae’r albwm 12 trac newydd wedi’i guradu gan Tŷ Gwerin ac yn cynnwys 12 artist sy’n rhan o’r sîn werin gyffrous sy’n ffynnu yng Nghymru heddiw.
Mae Tŷ Gwerin wedi bod yn un o’r llwyfannau amlycaf o ran hybu a chefnogi cerddoriaeth ac artistiaid gwerin yng Nghymru dros y ddegawd a mwy ddiwethaf. Mae’r albwm yn ddathliad o lwyddiant Tŷ Gwerin ac yn nodi ymrwymiad Sain i barhau i fuddsoddi mewn cynnal ein diwylliant a’n treftadaeth werinol meddai’r label.
“Mae’n fraint gan yr Eisteddfod a Tŷ Gwerin gydweithio gyda Sain ar brosiect sy’n rhoi llwyfan mor bwerus i amrywiaeth a bywiogrwydd y sîn werin gyfoes yng Nghymru” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
“Mae’r albwm yma yn adlewyrchu popeth y mae Tŷ Gwerin yn sefyll drosto – dathlu traddodiad, cefnogi artistiaid cyfoes, a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol o bob cwr o Gymru. Mae’n bleser cydweithio gyda Sain ar brosiect sy’n dangos mor fyw a pherthnasol yw cerddoriaeth werin heddiw.”
Cydbwysedd o artistiaid
Gyda’r mwyafrif o’r traciau wedi eu recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog a’u cynhyrchu gan Aled Wyn Hughes, mae’r albwm yn gydbwysedd perffaith o artistiaid sydd wedi hen wneud eu marc yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac artistiaid newydd, cyffrous, sy’n prysur ddod i’r amlwg, a’r gerddoriaeth yn dwyn ynghyd fersiynau newydd o ganeuon ac alawon traddodiadol a deunydd gwreiddiol.
Mae’r bytholwyrdd Bob Delyn a’r Ebillion yn dychwelyd i recordio am y tro cyntaf ers wyth mlynedd gyda’u trac newydd o hen benillion, ‘Y Gwynt’, a’u sŵn nodweddiadol, sy’n atgof pendant o rialtwch ‘Ffair y Bala’, yn agoriad mwy na theilwng i’r albwm.
Amrywiad cwbl ysbrydoledig, blŵgras Cymreig, o’r hen gân ‘Moliannwn’ a gawn gan y band o Gaerdydd, Taff Rapids, tra bod lleisiau a harmoni hudolus Pedair yn cydblethu mewn trac cerdd dant arbennig yn y gân ‘Blodau’r Cwm’.
Yn gyferbyniad llwyr mae’r ddeuawd ffidil a gitâr drydan Peiriant, gyda’u arbrofi alawol atmosfferig, yn cadarnhau bod gwerin yn ymbarel eang iawn o is-genres, a’r cyfan yn cyd-eistedd yn gytûn ac yn naturiol gyda’i gilydd.
Cawn drefniant offerynnol trawiadol o un o’r hen emynau Cymreig, ‘Llef’, gan y gitarydd medrus Gwenifer Raymond, a chyfansoddiad newydd, ‘Mwyar Duon’, gan y gitarydd a’r canwr â’r llais mwynaidd, The Gentle Good.
Dwy gân serch ddidwyll a gawn gan y cantorion amlwg Gwilym Bowen Rhys a Georgia Ruth tra bod Lleuwen yn rhoi i ni gyfansoddiad newydd, pwerus, ‘Haleliwia Newydd’, (cynhyrchwyd gan Rhys Edwards), wedi ei ysbrydoli gan ei phrofiadau ym maes emynau llafar gwlad Cymru.
Un o artistiaid mwyaf newydd y sîn werin yw’r ddeuawd o Faldwyn, y ddwy chwaer, Elin a Carys, a chlywn eu trefniant newydd, apelgar nhw o ‘Y Gwylliaid’, un o draciau y grŵp arloesol Plethyn, y grŵp y bu eu tad, Jac Gittins, yn aelod allweddol ohono. Daw Irfan Rais, sy’n byw yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach, o Singapore ac mae ei olwg ar gerddoriaeth werin Cymru, yn naturiol, yn dra wahanol, a’i fersiwn o’r hen gân ‘Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf’ yn rhoi gwedd newydd yn sicr ar hen ffefryn.
Mae’r berthynas rhwng dau frawd Lo-Fi Jones, Liam a Sion Rickard, yn heintus, a’u cyfansoddiad gwreiddiol, ‘Onnen’, yn tynnu ar fywiogrwydd ac afiaith llawer o’r hen ganeuon a’r alawon dawnsio.
Yn ôl Sain, mae ‘Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin’ yn reswm i ymfalchïo yn y sîn werin Gymreig ac i ddiolch i gynheiliaid y traddodiad gwerin yng Nghymru, ddoe a heddiw, y rhai a ysbrydolodd artistiaid gwerin cyfoes i rannu cyfoeth ein diwylliant a’r rhai sy’n parhau i gynnal a chreu traddodiad o’r newydd.
Bydd sesiwn arbennig i ddathlu rhyddhau’r albwm yn Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, nos Iau, 7 Awst, gyda pherfformiadau gan The Gentle Good, Irfan Rais ac Elin a Carys.