Mae manylion gig arbennig er cof am gitarydd y band enwog o Lanrwst, Y Cyrff wedi eu datgelu.
Bu farw Barry Cawley mewn amgylchiadau trist iawn yn 2000 pan cafodd ei daro gan gar wrth feicio ger Llanrwst.
Cynhelir y gig er cof amdano ar 5 Gorffennaf eleni gyda Mr, sef prosiect diweddaraf ei gyd-aelod o’r Cyrff, Mark Roberts, yn brif atyniad.
Bydd y bandiau Los Blancos ac Yr Anghysur hefyd yn perfformio ar y noson a gynhelir yn Clwb Llanrwst. Bydd manylion tocynnau’r gig yn dilyn yn fuan.