Mae Georgia Ruth wedi wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y bydd yn perfformio ynddynt ym mis Mai fel rhan o waith hyrwyddo ei EP newydd, ‘Cooler Head’.
Rhyddhawyd ‘Cooler Head’ ar 28 Mawrth fel cydymaith i’w halbwm diweddaraf, ‘Cool Head’ a ryddhawyd yn ystod 2024.
Mae’r EP yn cynnwys fersiwn piano yn unig o bedwar o draciau’r albwm. Er mwyn hyrwyddo’r EP newydd bydd Georgia yn teithio i bump o leoliadau yn Lloegr rhwng 14 Mai a 18 Mai.
Dyddiadau’r gigs:
14 Mai – The Pound Arts Centre, Corsham
15 Mai – St Pancras Old Church, Llundain
16 Mai – The Met, Bury
17 Mai – The Hive, Yr Amwythig
18 Mai – St Mary’s Creative Space, Caer