Bydd y ‘siwpyrgrŵp’, Pedair yn parhau i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf gyda chyfres o gigs dros y Gwanwyn.
‘Dadeni’ ydy enw ail albwm Pedair ac fe’i rhyddhawyd ar ddiwedd mis Tachwedd, gan ddilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, ‘Mae ’na Olau’, a gipiodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Bydd ‘Taith Dadeni – Gwanwyn 2025’ yn cychwyn gyda gig yn Neuadd Coedybryn ger Ffostrasol yn Nyffryn Teifi ar 25 Ionawr.
Bydd hynny’n cael ei ddilyn gan gigs yng Nghonwy, Caerfyrddin a Dolgellau yn ystod mis Chwefror, ac yna yn Abersoch, Crymych a Bangor ym mis Mawrth.
Mae tocynnau eu gig olaf o’r gyfres, sef hwnnw yn Pontio, Bangor ar 15 Mawrth, eisoes wedi eu gwerthu i gyd.
Pedair ydy Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym sydd i gyd yn gerddorion unigol cydnabyddedig a llwyddiannus.
25 Ionawr – Neuadd Coedybryn, ger Ffostrasol
9 Chwefror – Eglwys Y Santes Fair, Conwy
15 Chwefror – Neuadd Bronwydd, ger Caerfyrddin
28 Chwefror – Tŷ Siamas, Dolgellau
1 Mawrth – Clwb Golff, Abersoch
14 Mawrth – Theatr y Gromlech, Crymych
15 Mawrth – Pontio, Bangor