Rhyddhau sengl Huw Aye Rebals

Mae’r band newydd o Fôn, Huw Aye Rebals, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers nos Calan.

‘Dyddiau Chwim’ ydy enw’r trac newydd gan y band sydd wedi bod yn dechrau creu argraff dros y misoedd diwethaf. 

Mae ‘Dyddiau Chwim’ yn ddilyniant i’w sengl ddiweddaraf, ‘Halen y Ddaear’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd. Cyn hynny, bu i’r Huw Aye Rebals ryddhau ei EP cyntaf, ‘Boni a Claid’ nôl ar ddiwedd mis Awst.  

Huw Al ydy ffryntman, a phrif egni Huw Aye Rebals a dywed ei fod wedi ysgrifennu’r gân ddiweddaraf i’w gariad, Heledd Morgan, sydd hefyd yn canu ar y trac. 

“Nes i sgwennu hon i Heledd, fy nghariad a nathi ddarfod fyny’n canu ar y trac hefo ni fel deuawd bach” meddai Huw.

“Mai’n drac fydd ar ein album newydd sydd ddim bell wedi ei orffan ond heb ei cyhoeddi eto.” 

Newyddion da bod albwm ar y ffordd felly, a dywed Huw fod y band yn edrych ymlaen i gigio’n gyson unwaith eto yn ystod 2025. 

Gadael Ymateb