Atgyfodi Gig Gwobrau’r Selar…a’r bleidlais ar agor!

Wrth agor y bleidlais gyhoeddus ar gyfer eleni, mae’r Selar hefyd wedi datgelu y bydd digwyddiad byw Gwobrau’r Selar yn dychwelyd yn 2025.

Datgelwyd y bydd gig Gwobrau’r Selar yn cael ei gynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi, sef nos Sadwrn 1 Mawrth a hynny yn Theatr Arad Goch, Aberystwyth. 

Er bod Y Selar wedi bod yn cyflwyno’r gwobrau’n flynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, dyma fydd y tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad byw i ddathlu’r enillwyr ers Chwefror 2020 – ychydig wythnosau’n unig cyn cyfnod y clo mawr. Ers hynny mae’r enillwyr wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru mewn cydweithrediad â’r orsaf genedlaethol. 

Mae’r Selar wedi bod yn cyflwyno gwobrau i’r goreuon o’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ers 2008, ac yn 2013 fe gynhaliwyd y noson Wobrau’r Selar gyntaf yn Neuadd Hendre ger Bangor ar nos Sadwrn 2 Mawrth. Ymysg yr artistiaid a berfformiodd ar y noson honno roedd Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas, Sŵnami, Gai Toms a Gwenno. 

Y flwyddyn ganlynol symudodd y digwyddiad i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth er mwyn cael lleoliad mwy, a gwerthodd bob un o 600 tocyn y gig ymlaen llaw. Roedd angen lleoliad mwy eto felly, ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth oedd y lleoliad hwnnw yn Chwefror 2015 gyda dros 700 o bobl yno y tro hwn.

Dyma oedd cartref Gwobrau’r Selar am y pum mlynedd nesaf gyda’r gynulleidfa’n chwyddo i dros 1100 o bobl a’r digwyddiad yn ymestyn i dair noson yn y pendraw, ynghyd â gweithgareddau amrywiol eraill dros y penwythnos. 

Gobeithio ail-greu’r cyffro

Er mai lleoliad tipyn llai bydd ar gyfer y digwyddiad eleni, bydd croeso mawr yn siŵr o fod i’r newyddion bod Gwobrau’r Selar yn dychwelyd ar ryw ffurf. Er hynny, dywed y trefnwyr eu bod yn gobeithio creu’r un math o gyffro ag oedd i’r Gwobrau rhwng 2013 a 2020. 

“Fel mae’n digwydd, ro’n i’n teimlo bod hi’n bryd i addasu rhywfaint ar y digwyddiad yn 2020, ac wedi dechrau cynllunio rhywbeth ychydig yn wahanol” eglura Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. 

“Yn anffodus, fe’n gorfodwyd ni, fel pawb arall, i newid ein cynlluniau’n llwyr gan y pandemig a’r cyfnod clo. Dros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi bod yn falch iawn i gyd-weithio gyda BBC Radio Cymru i gyhoeddi a chyflwyno’r gwobrau ar y tonfeddi, ond roedden ni’n teimlo ei bod hi’n hen bryd i ni gynnal digwyddiad byw eto. 

“Mae Arad Goch yn lleoliad ardderchog ar gyfer ail-gydio ynddi, ac mae egwyddorion y cwmni hwnnw’n debyg iawn i egwyddorion Y Selar yn enwedig i roi llwyfan i berfformio yn y Gymraeg, a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn enwedig. Mae’n lleoliad llai na rhai’r Gwobrau yn y gorffennol yn Aber, ond dwi’n credu bydd hynny’n rhoi naws arbennig, tebyg i’r digwyddiad gwreiddiol hwnnw’n Neuadd Hendre.

“Mae sawl un wedi dweud wrthom ni bod bwlch yn y calendr digwyddiadau byw yr adeg yna o’r flwyddyn ers i’r Gwobrau ddod i stop, felly gobeithio y gallwn ni lenwi rhywfaint ar y bwlch yna ac atgyfodi’r gig arwyddocaol yma.”

Mae tocynnau ‘cyntaf i’r felin’ gig Gwobrau’r Selar ar werth nawr am bris arbennig o £15. Bydd i lein-yp yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Bydd enillwyr Gwobrau’r Selar, yn ôl yr arfer, yn cael eu dewis gan y cyhoedd ac mae’r bleidlais arferol yn agor nawr nes 22 Ionawr. Cliciwch isod i bleidlaiso.

Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2024

 

Gadael Ymateb