Wedi triawd o senglau i gynnig blas dros yr haf, mae Gruff Rhys bellach wedi rhyddhau ei albwm uniaith Gymraeg newydd.
‘Dim Probs’ ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar label Rock Action Records ers dydd Gwener diwethaf, 12 Medi.
Roedd dyddiad rhyddhau’r albwm yn arwyddocaol gan ei fod yn cyd-fynd â phenwythnos gŵyl Ara Deg, sef yr ŵyl gerddoriaeth mae Gruff yn cyd-drefnu’n flynyddol ym Methesda.
Daw’r albwm llawn ar ôl rhyddhau tair sengl fel tameidiau i aros pryd gan ddechrau gyda ‘Chwyn Chwyldroadol’ ym mis Mehefin. Daeth ‘Saf ar dy Sedd’ a ‘Taro #1 + #2’ i ddilyn ym misoedd Gorffennaf ac Awst.
‘Dim Probs’ ydy nawfed albwm unigol y cerddor fu’n aelod o’r bandiau Super Furry Animals a Ffa Coffi Pawb, a’i albwm Cymraeg gyntaf ers ‘Pang!’ a ryddhawyd yn 2019.
Mae’r albwm newydd ar gael ar ffurf CD, feinyl 12”, feinyl 12” lliw nifer cyfyngedig, ac ar gasét, yn ogystal ag ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Gan ddechrau gyda pherfformiad yng ngŵyl Ara Deg, mae’r cerddor hefyd wedi cyhoeddi manylion nifer o sioeau byw yng Nghymru a Lloegr dros y mis nesaf er mwyn hyrwyddo’r record hir newydd. Mae hefyd wedi datgelu manylion cyfres o gigs ewropeaidd yn y gwanwyn.
O dic nefolaidd y gitâr acwstig ddiddiwedd sy’n agor yr albwm ar y trac ‘Pan Ddaw’r Haul i Fore’ i’r trac ysgytwol olaf, ‘Acw’, mae ‘Dim Probs’ yn albwm heriol a phrydferth ar yr un pryd.
Wedi’i recordio a’i gymysgu ym Mryste yn 2024 gyda’r cynhyrchydd Ali Chant (Yard Act/PJ Harvey, Dry Cleaning), mae ‘Dim Probs’ yn atseinio cynhesrwydd ac agosatrwydd albwm unigol cyntaf Gruff, ‘Yr Atal Genhedlaeth’ a ryddhawyd yn 2005, a thristwch serol ‘Seeking New Gods’ o 2021.
Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio’n gyfan gwbl yn y Gymraeg, mae ‘Dim Probs’ yn gosod y gwrandäwr yng nghornel y stiwdio, ochr yn ochr ag un o’n cyfansoddwyr mwyaf meddylgar wrth i’r caneuon dyfu o gwmpas ei lais a’i gitâr. Y canlyniad yw record agos atoch a hypnotig sy’n cymysgu caneuon gwerinol acwstig a pheiriannau electronig cyntefig.
“Mae ‘Dim Probs’ yn ganlyniad o dreulio’r blynyddoedd diwethaf yn paratoi casgliad gyda ffrindiau o gasetiau cerddoriaeth electroneg Cymraeg yr 80au” eglura Gruff Rhys am yr albwm.
“Hyd yn oed os na chaiff y casgliad byth ei ryddhau mae rhai o’i weadau peiriannol wedi’u hymgorffori yn y record hon… wedi’u gwrthbwyso gan y ffaith i mi ei ysgrifennu i gyd gyda fy ngitâr acwstig rhad fel prif offeryn.
“Gadewais rai o’r trefniadau yn syml iawn ond ar ganeuon eraill gofynnais i ffrindiau o fy grŵp byw (Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gavin Fitzjohn) i helpu ar ambell gân, ac mae Cate Le Bon a H Hawkline yn ychwanegu lleisiau cefndir ar y traciau agoriadol [‘Pan Ddaw’r Haul I Fore’ a ‘Chwyn Chwyldroadol!’].
“O ystyried y cyfnod erchyll gwleidyddol sydd ohoni mae’r teitl Dim Probs yn jôc dywyll, yn enwedig gan fod y geiriau, gobeithio mewn ffordd chwareus, yn ymdrin yn amrywiol â marwolaeth [‘Taro #1 + #2’], chwyn [‘Chwyn Chwyldroadol!’], rhyfel. [‘Cyflafan’] a phlâ [‘Acw’].”