Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei sengl newydd ynghyd â dyddiadau ychwanegol ar gyfer ei daith ym mis Media Hydref. ‘Saf Ar Dy Sedd’ ydy enw’r sengl newydd ganddo, a’r blas diweddaraf o albwm newydd Gruff Rhys, ‘Dim Probs’.
Bydd yr albwm allan ar 12 Medi ac mae eisoes wedi cyhoeddi manylion nifer o ddyddiadau ar gyfer taith hyrwyddo’r record hir.
“Dwi newydd ryddhau’r ail drac o’r albwm, Saf Ar Dy Sedd, cân wledig ddigon haniaethol gyda chyfeiriad at docynnau parcio Llangrannog” meddai Gruff am y sengl newydd.
“Fideo gan yr anhygoel Pete Fowler.”
“Dwi hefyd newydd gyhoeddi mwy o gigs fel rhan o’n nhaith Dim Probs ym mis Medi a Hydref. Yn ogystal â’r dyddiadau yng Nghymru (ar werth yn barod), dwi hefyd yn perfformio yn Boston, Wolverhampton, Efrog, Lerpwl, Blackpool, Llundain, Bryste, Caerwysg a Nantwich.”
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: