Gwilym Bowen Rhys yn teithio yn Ewrop

Mae canwr gwerin poblogaidd, Gwilym Bowen Rhys, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y bydd yn perfformio yn Llydaw, Ffryslân ac Amsterdam yn ystod y mis.

Mae eisoes wedi bod yn chwarae yn Llydaw dros y penwythnos (3-5 Hydref) gyda gigs yn Lannuon, Rostrenn, a Plouie.

Penwythnos nesaf bydd yn symud ymlaen i’r Iseldiroedd i berfformio mewn tri gig arall. 

Manylion gigs Gwilym yn yr Iseldiroedd: 

11 Hydref – De Schierstins, Feanwâlden, Fryslân

12 Hydref – Stitching it Podium, IJlst, Fryslân

16 Hydref – Mulligan’s Irish Bar, Amsterdam