Rhyddhau sengl ddiweddaraf SERA ac Eve Goodman

Wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm newydd y mis yma, mae SERA ac Eve Goodman wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar y cyd.

‘Bendith’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 3 Hydref ar eu label annibynnol, Recordiau Anian.

Gan barhau â’u thema wedi’i hysbrydoli gan natur, mae ‘Bendith’ yn gân wedi’i hysbrydoli gan y pererinion a deithiodd i Ynys Enlli, a elwir yn “Ynys yr 20,000 o Sant”. 

Mae hon yn gân i unrhyw un sy’n mynd trwy gyfnod o newid sylweddol neu’n wynebu taith heriol, ar ba bynnag ffurf. Mae’r gân yn dod o hyd i gysur yn yr hyn sy’n ein cadw’n seiliedig; gwreiddiau, y tir, nythod a’r sicrwydd y gellir ei ganfod hefyd mewn newid (y lleuad, y llanw). 

Wedi’i recordio’n fyw yn Wild End Studio ger Llanrwst, yr unig gyfeiliant ar y trac yw ‘Shruti,’ sef offeryn a ddaw’n wreiddiol o is-gyfandir India, ac sy’n darparu sain drôn. Dim ond dwy lais yw’r gweddill, weithiau mewn unsain, weithiau ar wahân, ac yn aml mewn cytgord neu wrth-alawon, ac mae ganddo agweddau o ‘faled draddodiadol.’ 

Dyma’r bedwaredd mewn cyfres o senglau gan y artistiaid Eve Goodman a SERA o’u halbwm cydweithredol fydd yn cael ei ryddhau ar 10 Hydref dan yr enw ‘Natur’. 

Mae’n dilyn eu sengl gyntaf ‘Blodyn Gwyllt’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf, ‘Cwlwm Cariad’, a ryddhawyd ym mis Awst, ac ‘Anian’, a ryddhawyd ym mis Medi. 

Dechreuodd Eve Goodman a SERA gyd-weithio ar ôl iddynt gael eu dewis fel artistiaid ar gynllun Gorwelion y BBC yn 2019. 

Roedd y ddwy yn gantorion-gyfansoddwyr gwerin, gyda gyrfaoedd unigol ar gynnydd, ac roedd y ddwy wedi tyfu i fyny yng Nghaernarfon. Daeth Gorwelion â nhw at ei gilydd mewn ffordd, ac ar ôl dim ond un sesiwn ysgrifennu fe wnaethon nhw ddod o hyd i dir cyffredin yn eu cysylltiad â’u chwilfrydedd am natur. 

Wedi’u hamgylchynu gan dirwedd hardd Gogledd Cymru sy’n rhan mor bwysig o’u bywydau, ac hefyd wedi’u hysbrydoli gan y prosiect ‘Geiriau Coll – Spell Songs,’ dechreuodd y ddwy archwilio’r enwau Cymraeg ar adar a choed, blodau a physgod. 

Tyfodd tendrilau’r caneuon i gyffwrdd ag elfen gylchol natur a menywod, ac yn fuan iawn roedd corff o waith yn tyfu, pob cân yn emyn o gariad i’r ddwy. 

Dechreuodd 2020 fel blwyddyn gyffrous i’r ddwy, gan berfformio ar y cyd ar Heno, yna’n fyw yn Stiwdios Maida Vale y BBC, a rhyddhau dwy gân boblogaidd (‘Gaeafgwsg’ a ‘Rhwng y Coed’) a gafodd eu cynnwys ar restr chwarae BBC Radio Cymru. 

Wrth gwrs, yna daeth cyfyngiadau Covid, ac fe gafodd y prosiect seibiant am ychydig flynyddoedd. Diolch i grant Loteri Tŷ Cerdd ac yna cronfa lansio Horizons, llwyddodd y ddwy i wneud amser i ysgrifennu mwy o draciau ar gyfer eu halbwm. Bu iddynt hefyd gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2023 gyda’r gân ‘Tangnefedd’, cyn mynd i’r stiwdio i recordio. 

I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, bydd y ddeuawd yn cynnal taith o amgylch Cymru ym mis Hydref  a dechrau Tachwedd. Dyma fanylion y gigs:

10 Hydref –  Blue Sky Cafe, Bangor 

11 Hydref – Gŵyl Roots/Gwreiddiau, Wrecsam 

12 Hydref – Warws Un, Llanrwst 

18 Hydref – Tŷ Tawe, Abertawe 

19 Hydref – Clwb Y Bont, Pontypridd 

20 Hydref – The Second 45, Llanelli + Heno (S4C) 

1 Tachwedd – Pontio, Bangor (yn cefnogi Julie Fowlis) 

2Tachwedd – Stori, Bala