Bydd Recordiau Libertino yn cynnal digwyddiad arbennig ar 12 Ebrill sy’n ddathliad dwbl o artistiaid y label a hefyd o Ddydd Siopau Recordiau Annibynnol.
CWRW yng Nghaerfyrddin fydd lleoliad y digwydd sy’n dwyn yr enw ‘SWIGOD!’ ac a fydd yn llwyfannu 10 awr o gerddoriaeth byw ar y diwrnod gan ddechrau am 2pm.
Mae’r label yn cyd-weithio gyda SLUSH CIC i drefnu’r digwyddiad fydd yn cynnwys perfformiadau gan Adwaith, Los Blancos, Ynys, Keys, Kidsmoke, Angharad Accü a’r band ysgol o Gaerfyrddin, Penne Orenne. Bydd DJs Libertino, Slush a Beast PR hefyd yn troelli ar y dydd.
Gyda’r syniad i sefydlu label Libertino yn cael ei ffurfio yng nghanolfan gigs enwog The Parrot yng Nghaerfyrddin, mae’n briodol mai fersiwn newydd y lleoliad, CWRW, ydy’r lleoliad ar gyfer y dathliad arbennig o lwyddiant Libertino hyd yn hyn.
Mae tocynnau’r gig ar werth nawr.