Mae Melys wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Sgleinio’, sydd allan ar label y band ei hun, Recordiau Sylem.
Ynghyd â’r sengl Gymraeg, daw hefyd y newyddion bod y band yn paratoi i ryddhau eu halbwm newydd dan yr enw ‘Second Wind’, a hynny ar Ddiwrnod Siopau Recordiau Annibynnol eleni, sef 12 Ebrill.
Yn dilyn pwysau cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r trac yn archwilio sgil effaith hynny a’r disgwyliad dyddiol i bostio ac i frolio. Fel pob cân Melys, mae ‘Sgleinio’ yn dechrau gydag alawon syml cyn datblygu’n drac llawn lliw gyda gitârs ymosodol a synths analog.
“Daeth ‘Sgleinio’ yn sgil yr anawsterau o gymharu ein hunain ag eraill ar-lein,” eglura Andrea o’r band.
“Mae gan bob un ohonom rywfaint o brofiad o hynny, naill ai’n bersonol neu wrth weld rhywun agos atom yn ei brofi.
“Rydym yn rhoi gormod o bwysau arnom ein hunain i gyflwyno’r ddelwedd berffaith, ac roeddwn i eisiau ’sgwennu cân sy’n ein hatgoffa ein bod ni’n ddigon da fel ydym ni.”
Bu Melys yn perfformio mewn cyfres o gigs yn ddiweddar, ac maen nhw hefyd yn cynllunio cyfres arall ym mis Mai eleni. Dyma’r dyddiadau
09 Mai – Focus Wales, Wrecsam
15 Mai – Liquid Rooms, Caeredin
17 Mai – 02, Rhydychen
23 Mai – 02, Birmingham
24 Mai – Gŵyl In It Together
25 Mai – MK11, Milton Keynes