Mae’r cerddor Rhys Dafis wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Trigo’ ydy enw’r sengl newydd sydd wedi’r rhyddhau’n annibynnol ganddo.
Mae ystyr dwbl i’r gair ‘trigo’ – gall y gair olygu marw mewn rhai ardaloedd yn ogystal â byw, ac mae hon yn gân sy’n archwilio’r Cymreictod drwy lens y paradocs hwn – sut y gall deimlo fel ei fod yn hyfyw un funud, ac ar ei wely angau y funud nesaf.
Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Tŷ Drwg gyda Frank Naughton, a fu hefyd yn ei chymysgu a’i mastro.
Yn ymuno ar y trac gyda Rhys mae’r cerddorion Ioan Gwyn (gitar fas), Gwern ab Arwel (piano a gitâr acwstig) a Gruff Owen (drymiau ac offerynnau taro). Yn ôl Rhys, fe drawsnewidiwyd y gân o fod yn demo di-fflach i’r fersiwn bywiog a lliwgar y clywch chi nawr.
Lluniwyd y clawr trawiadol gan yr artist Esyllt Angharad Lewis. Tynna ar ddelwedd draddodiadol y fenyw Gymreig, sydd cyhyd wedi cael ei phortreadu gan ddynion, mewn ymgais i’w rhyddhau o hualau’r drem wrywaidd.
Mae’r gân ar gael i’w phrynu ar safle Bandcamp Rhys Dafis ac i’w ffrydio ar yr holl lwyfannau digidol arferol.