Hud Huw M

Mae’r cerddor profiadol, Huw M, wedi rhyddhau ei ail sengl o’r flwyddyn – mae ‘Hud’ allan ar label I KA CHING. 

Mae Huw M yn cael ei adnabod fel cerddor gwerinol-finimalistaidd ac wedi gwneud ei enw ers rhyddhau ei albwm cyntaf, ‘Os Mewn Sŵn’ yn 2010. 

Bu’n weddol gynhyrchiol wedi hynny, ond y sengl ‘Cacwn Bwm’, a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni oedd ei gynnyrch newydd cyntaf ers degawd. 

Braf ei weld yn ôl gydag ail sengl o’r flwyddyn felly, ‘Hud’. 

Mae ‘Hud’ yn gân lawen, egnïol arall, yn llawn harmonïau, riffs gitarau jangli a bachog, a dos go dda o organ Hammond… megis haf bach Mihangel!

“Mae’r geiriau’n sôn am y syniad fod gan bawb ryw fath o hud a lledrith tu fewn iddyn nhw, dim ond i ni ddarganfod beth ydy’r hud hwnnw” meddai Huw.  

“Dwi’n meddwl mai Dolly Parton ddwedodd “find out who you are, then do it on purpose”, a dyna syniad y gân – fod gan bawb rhywbeth arbennig ac unigryw i gynnig, ac mae ’na le yn y byd i bawb a’i hud!”

Ar y trac, mae Bethan Mai o’r band Rogue Jones yn canu, Lucy Goldbridge yn canu a chwarae’r soddgrwth ac Iolo Whelan yn drymio a chwarae’r offerynnau taro. 

Huw sy’n chwarae gweddill yr offerynnau, gan gynnwys yr organ Hammond, sy’n chwarae rhan ganolog ar ei ganeuon newydd. 

Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Tŷ Drwg, dan ofal y cynhyrchydd amryddawn Frank Naughton.

Y newyddion da pellach ydy bod addewid am ragor o senglau’n cael eu rhyddhau’n fuan, ac albwm newydd sbon yn 2026.

 

Gadael Ymateb