Malan rhyddhau ‘Lonely’

‘Lonely’ ydy enw’r sengl ddiwddaraf gan Malan sydd allan ar label Côsh ers dydd Gwener 17 Hydref.

Cafodd fersiwn byw o’r gân yma ei rhyddhau ym mis Ionawr, fel rhan o albwm aml-gyfrannog ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’.

Yn wreiddiol, y bwriad oedd i adael honno fel yr unig fersiwn o’r gân oedd yn bodoli – ond gyda pherswâd y rhai ddisgynnodd mewn cariad gyda’r trac, dyma ryddhau fersiwn stiwdio lawn. 

Mae Malan yn paratoi i ryddhau EP dwyieithog ym mis Tachwedd i ddathlu’r ffaith ei bod hi’n mynd allan i ŵyl ‘M for Montreal’ yng Nghanada i gynrychioli Cymru, gan rannu llwyfan gyda Gruff Rhys.  

Gyda ‘Lonely’, mae Malan yn cyflawni camp brin; sef y gallu i greu cân sy’n swnio’n hollol gyfarwydd ac yn hollol ffres ar yr un pryd. Yn ei steil hamddenol, jazz nodweddiadol, mae ‘Lonely’ yn siŵr o ddenu mwy o glod i’r gantores ifanc o Gaernarfon. 

Gadael Ymateb