Mae Mellt yn rhyddhau eu sengl newydd ar ddydd Mercher 22 Hydref.
‘Big Bird’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y triawd o Aberystwyth, ac mae’n damaid i aros pryd nes yr EP o’r un enw fydd yn cael ei ryddhau ar 12 Rhagfyr ar label Grwndi Records.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl sydd wedi’i gyfarwyddo gan San Rhys James.
Dyma’r fideo: