Mae’r artist profiadol Huw M yn ôl gyda’i sengl newydd, ‘Cacwn Bwm’, ar label I KA CHING.
Mae’r label yn disgrifio Huw M fel artist gwerinol-finimalistaidd, a bu’n gerddor Cymraeg amlwg a gweithgar iawn dros y blynyddoedd.
Er hynny, anodd credu mai dyma sengl gyntaf Huw ers 10 mlynedd, ac mae’r naws llawen, up-beat, hafaidd yn eithaf gwahanol i’w albwm diwethaf, ‘Utica’ a ryddhawyd yn 2015.
Mae enw’r sengl ddiweddaraf yn dal y llygad, a dywed Huw mai llwyddiant ein timau pêl-droed cenedlaethol sydd wedi ysbrydoli’r trac.
“Cacwn bwm ydy un o’r termau Cymraeg am bumble bees”, eglura Huw am ei sengl newydd.
“Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r geiriau ydy llwyddiant timau pêl-droed Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac un o’r ffans yn dweud mai Cymru ydy cacwn bwm y byd pêl-droed.
“Oherwydd maint eu cyrff, dylie cacwn bwm ddim gallu hedfan, a dylie Cymru ddim fod yn ennill lle mewn cystadlaethau fel Cwpan y Byd a’r Euros! Mae’r cacwn bwm yn ysbrydoliaeth i ni gyd – yn profi fod unrhyw beth yn bosib. A pwy a ŵyr pa mor bell fydd tîm merched Cymru yn mynd yn Euro 2025?”
Albwm ar y ffordd
Y cerddorion sy’n serennu ar ‘Cacwn Bwm’ yw Huw ei hun yn canu, chwarae gitars a’r Hammond organ, Bethan Mai (hefyd o Rogue Jones) yn canu, Iolo Whelan ar y drymiau a Lucy Goldbridge yn canu a chwarae’r soddgrwth.
Recordiwyd a chynhyrchwyd ‘Cacwn Bwm’ gan Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg.
Y newyddion da pellach, yn enwedig ar ôl degawd o aros, ydy y bydd sengl arall yn cael ei rhyddhau gan Huw M cyn hir ac mae wrthi’n gweithio ar albwm a gaiff ei ryddhau yn 2026.
Mae deunydd amrywiol Huw M yn y gorffennol wedi derbyn adolygiadau 4 seren yn y Times, Record Collector, R2, 8/10 yn Clash yn ogystal â derbyn enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Chwaraewyd caneuon o’r albwm ‘Utica’ ar BBC Radio 1 (albwm ‘dan sylw’ gan Huw Stephens), 6Music, BBC Radio 3, Radio Cymru, Radio Wales ac ABC yn Awstralia.
Llun: Kirsten Mcternan