Bydd sengl Gymraeg gyntaf prosiect Americanwr sydd bellach yn byw ym Mangor, yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Gorffennaf.
Pioden ydy enw prosiect newydd canwr gwerin o Galiffornia, Joshua Gardner.
Cwta flwyddyn a hanner sydd ers iddo ddechrau dysgu Cymraeg ond mae bellach yn barod i ryddhau’r trac ‘Appalachia (Lle Fuost Ti?’ a hynny ar ffurf record feinyl 7” yn ogystal ag ar ei safle Bandcamp a’r prif lwyfannau digidol arferol.
Mae Joshua wedi cymysgu ei steil unigryw o ysgrifennu caneuon Americana protest gyda’i gariad newydd o’r heniaith.
Mae’n debyg bod perfformiadau egnïol Pioden wedi creu llawr o ddilynwyr ffyddlon ym maes cerddorol Bangor.