Vampire Disco yn rhyddhau albwm

Mae’r DJ a chynhyrchydd electronig, Vampire Disco, wedi rhyddhau albwm ddwyieithog DnB newydd.

‘Milkshek’ ydy enw’r record hir newydd gan brosiect diweddaraf Alun Reynolds.

Mae Alun wedi arbrofi gydag amryw brosiectau cerddorol yn y gorffennol gan gynnwys JJ Sneed a Panda Fight.  

Bu iddo ryddhau ei sengl gyntaf dan yr enw Vampire Disco, sef ‘Hapus’, ddiwedd yr haf llynedd a nawr mae nôl gydag albwm sydd, meddai ef, yn ‘gymysgedd beiddgar o wreiddiau Cymreig a sŵn byd-eang.’

Cefnogaeth gan Ben Nicky

Albwm Drum & Bass dwyieithog ydy ‘Milkshek’ sydd yn ôl Alun yn uno egni crai’r sin electronig gyda swyn a nerth ieithyddol y Gymraeg. Mae’r albwm yn tynnu’n gryf ar ei wreiddiau Cymreig, tra’n cofleidio dylanwadau byd-eang y sin DnB. Mae geiriau’r traciau yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan greu profiad sain sydd mor gyffrous ag y mae’n bersonol.

Alun gyda Ben Nicky

Cafodd y prosiect hwb sylweddol ar ôl i un o fideos Vampire Disco fynd yn feiral ar-lein — gan ddenu sylw’r eicon trans ryngwladol Ben Nicky, a’i wahoddodd i dreulio amser gyda’r DJ ei hun. 

Ers hynny, mae Ben Nicky wedi parhau i gefnogi cerddoriaeth Vampire Disco, gan helpu sbarduno ei daith i’r llwyfan rhyngwladol.

“Mi wnes i dyfu lan efo Drum & Bass yn fy nghlustiau a’r Gymraeg yn fy nghalon” meddai Alun  wrth drafod ei ysbrydoliaeth. 

“Roedd ei uno yn teimlo’n iawn. Mae’n dangos fod y ddwy iaith — a’r ddau fyd — yn haeddu lle yn y rave.”

Gyda thraciau egnïol sy’n barod ar gyfer y llawr dawns a darnau myfyriol llawn emosiwn, mae ‘Milkshek’ yn cynnig dyluniad sain manwl, naratif cryf a steil amlwg Vampire Disco. 

Gobaith Vampire Disco ydy y bydd ‘Milkshek’ yn ail-ddiffinio beth all albwm DnB fod — dwyieithog, emosiynol, a di-ofn.

Dyma’r trac ‘Cawrdant’: